Arfon Hughes, Hwylusydd Tai Gwledig Gwynedd gyda John Arthur Jones, Cadeirydd Grŵp Cynefin, Cynghorydd dros yr ardal Caerwyn Roberts a’r Cynghorydd Wyn Williams yn safle Pant yr Eithin, Harlech
Mae 13 o dai fforddiadwy yn cael eu codi yn Harlech, a rhai ohonyn nhw’n cael eu codi’n bwrpasol ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu.

Grant Llywodraeth Cymru a chyllid preifat sy’n talu am godi’r tai ar dir sydd wedi ei ddarparu gan Gyngor Gwynedd.

Dywedodd Arfon Hughes, Hwylusydd Tai Gwledig Gwynedd: “Mae mwy na 50 teulu ac unigolion ar y rhestr aros am dai yn Harlech a’r cylch. Ac felly bydd ailddatblygiad Pant yr Eithin yn gyfraniad pwysig.”

Tai eco-gyfeillgar

Ym mhob un o’r 13 cartref bydd system ynni haul arloesol PV ImmerSUN, sy’n defnyddio paneli solar i gynhesu dŵr yr eiddo yn ystod y dydd.

Hefyd bydd pympiau effeithiol i gasglu gwres o’r awyr a’r waliau a’r lloriau wedi eu hinsiwleiddio i safon uchel.

Dywedodd Cynghorydd Caerwyn Roberts o’r ardal: “Mae hwn yn fuddsoddiad gwych i’r dref, yn gyfle rhagorol i bobl leol gael mynediad at dai fforddiadwy o safon uchel yn yr ardal wledig hon, ac ar yr un pryd yn cwrdd ag anghenion pobl ag anableddau dysgu.

Cefnogi cymunedau gwledig

Ychwanegodd Wyn Williams, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd gyda chyfrifoldeb am Ofal: “Rwyf wrth fy modd fod gwaith wedi dechrau ar y datblygiad pwysig hwn.”

“Mae’r datblygiad safle Pant yr Eithin yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi cymunedau gwledig yng Ngogledd Cymru,” meddai cadeirydd Grŵp Cynefin, John Arthur Jones.

“Yn ogystal â chwrdd â’r angen am dai fforddiadwy, bydd y mesurau arbed ynni yn y cartrefi hyn yn helpu ein tenantiaid i oresgyn tlodi tanwydd, sy’n broblem ddwys mewn ardaloedd gwledig.”