Bydd ymgyrchwyr o Gymru yn ymweld â grwpiau ymgyrchu dros annibyniaeth a chynrychiolwyr gwleidyddol yn yr Alban wythnos nesaf er mwyn trosglwyddo neges o gefnogaeth dros annibyniaeth yr Alban yn refferendwm mis Medi.

Bydd yr ymgyrchwyr o Gymru yn trafod dadleuon presennol amgylch yr ymgyrch ‘IE’ gyda grwpiau fydd yn cynnwys National Collective, Radical Independence, Women for Independence, Yes Scotland, Greens for Yes, Labour for Yes a’r SNP.

Bydd y daith yn cynnwys dangosiad cyhoeddus o ffilm aml-gyfrannol – detholiad o leisiau o ar draws Cymru yn dangos cefnogaeth tuag at bleidlais ‘ie’ yn refferendwm mis Medi.

Dywedodd Sioned Haf, llefarydd ar ran y grŵp: “Mae wedi bod yn rhwystredigaeth i ni nad yw’r fodolaeth o gefnogaeth Cymru tuag at annibyniaeth yr Alban yn cael ei glywed na’i drafod yn y cyfryngau traddodiadol.

“Oherwydd hyn, penderfynon ni mynd gyda’n neges yn syth i bobol yr Alban. Byddwn yn cyfrannu i ddigwyddiad diwylliannol yng Nghaeredin ar y 18fed o Fehefin ble byddwn yn dangos ein ffilm aml gyfrannol. Byddwn hefyd yn cwrdd gydag ymgyrchwyr ac actifyddion i ddangos cefnogaeth a chynnig ein help i ysbrydoli pleidlais ie yn refferendwm mis Medi.

“Nid oes yna reol gynhenid sydd yn dweud fod rhaid i genhedloedd fod yn fawr gyda phoblogaethau uchel fel y Deyrnas Unedig gyfoes.

“Rydyn ni’n credu ei fod yn amser am ysgytwad yn y drefn draddodiadol, hen ffasiwn o weinyddiaeth wleidyddol yn y DU. Yn enw cydraddoldeb, democratiaeth, cyfiawnder cymdeithasol a chynaliadwyedd, rydym yn credu fod pob cenedl fach sydd yn rhoi cynnig ar hunanlywodraeth yn cael y gefnogaeth i wneud hynny.

“Rydym yn gweld yr ymgyrch am annibyniaeth yn yr Alban, yn debyg i Gatalonia, fel datblygiad blaengar tuag at Ewrop gyda chanolbwyntiau pŵer dosranedig ar ei thraws.

“Rydym yn credu fod gan yr Alban yr hawl i fod yn annibynnol ac mi fyddwn yn cyflwyno neges fod Cymru yn ei chefnogi yn ei ymdrech gyffrous newydd.”