Delyth Jewell yw'r ail o'r dde
Mae’n ymddangos bod tlws disglair iawn yng nghoron Plaid Cymru yn San Steffan, ar ôl i un o’i hymchwilwyr gipio dwy wobr am ei gwaith y tu ôl i’r llenni.

Mewn seremoni yn San Steffan fe gafodd Delyth Jewell ei dewis yn Ymchwilydd y Flwyddyn. Mae’n gweithio i’r Aelod Seneddol Elfyn Llwyd.

Cafodd ei dewis gan banel oedd yn cynnwys Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, Aelodau Seneddol, Arglwyddi a chynrychiolwyr o Ffederasiwn y Busnesau Bach, a oedd yn noddi’r noson.

Roedd hi’n noson dda i staff yr aelodau Cymreig yn y Senedd ar y cyfan, gydag ymchwilydd Mark Williams, Josephine Baker, hefyd yn dod i’r brig fel Ymchwilydd Democrat Rhyddfrydol y Flwyddyn.

Ymgyrch stelcian a thrais yn y cartref

Cafodd Delyth Jewell ei chydnabod am iddi ymchwilio a gweithio ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â stelcian a thrais yn y cartref.

Bu’n rhan allweddol o’r gwaith fel clerc pwyllgor trawsbleidiol oedd yn edrych ar gryfhau’r gyfraith ar stelcian, a ddaeth yn gyfraith gwlad yn 2012.

Yn fwy diweddar mae wedi bod yn gweithio ar newid y gyfraith ar drais yn y cartref, er mwyn cryfhau’r cosbau ar gyfer pobl sydd yn emosiynol dreisgar yn ogystal â threisgar yn gorfforol.

Ac yn ogystal ag ennill y brif wobr am Ymchwilydd y Flwyddyn, cafodd Delyth Jewell ei chyflwyno â thlws Ymchwilydd Trawsfeinciol neu Bleidiau Eraill y Flwyddyn.

Gwleidydd y dyfodol?

“Doeddwn i wir ddim yn disgwyl ei gael e, roedd e’n sypreis neis,” meddai Delyth Jewell wrth golwg360.

“Roeddwn i mor falch yn gweld y ddeddf stelcian yn dod i rym. Rydyn ni’n meddwl y bydd e’n gallu achub bywydau, a gobeithio bydd y gyfraith yn cael ei defnyddio.

“Mae yna fylchau yn y gyfraith ar drais yn y cartref ar hyn o bryd, felly rydyn ni hefyd yn ceisio cryfhau hynny fel bod pawb yn medru cael yr un gofal.”

Gyda chynifer o Aelodau Seneddol wedi dechrau’u gyrfaoedd gwleidyddol fel ymchwilwyr, a yw hi’n rhagweld gyrfa ar reng flaen gwleidyddiaeth?

“Ha ha! Oh gosh, fi ddim yn gwybod,” meddai. “Falle, ond nage am beth amser.

Never say never, ond yn sicr ddim ar hyn o bryd – fi’n hapus iawn gyda beth fi’n ei wneud.”