Mae Cymru yn un o’r 16 gwlad gwaethaf allan o 240 o safbwynt dirywiad byd natur.

Dengys adroddiad newydd gan Gymdeithas Gwarchod Adar yr RSPB a’r Amgueddfa Hanes Naturiol gyflwr enbyd byd natur yng Nghymru, ynghŷd â rhannau eraill o’r DU.

Y tabl cynghrair newydd hwn yw’r diweddaraf mewn nifer o adroddiadau gwyddoniaeth sy’n amlygu’r angen taer am weithredu gan Lywodraeth Cymru i rwystro a dadwneud y dirywiadau ym myd natur, medd yr RSPB.

Gan ddefnyddio’r dangosydd cyfanrwydd bioamrywiaeth (BII – Biodiversity Intactness Indicator), mae gwyddonwyr yn gallu mesur yr effaith hirdymor y mae gweithgaredd dynol yn ei gael ar blanhigion, anifeiliaid a thirwedd, a barnu i ba raddau y mae’r golled mewn byd natur mewn gwahanol wledydd.

Mae gan Gymru sgôr o 51%, sy’n golygu ei bod wedi cadw ychydig dros hanner ei phlanhigion ag anifeiliaid.

Sgôr cyffredinol y Deyrnas Unedig yw 50%, wedi’i chymharu gydag 65% i Ffrainc, 67% i’r Almaen a 89% i Ganada, sydd ymysg y gwledydd neu tiriogaethau gorau ledled y byd yn cadw ei bioamrywiaeth naturiol.

Dirywio

Yn 2019, dangosodd adroddiad Cyflwr Byd Natur fod bywyd gwyllt Cymru yn parhau i ddirywio, a bod 8% o rywogaethau yng Nghymru dan fygythiad o ddifodiant o’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Katie-Jo Luxton, Cyfarwyddwraig RSPB Cymru: “Wrth gael ei ystyried ochr-yn-ochr gyda’r asesiad BII, mae’n eglur fod Cymru wedi cyrraedd pwynt argyfyngus ble, os nad oes rhywbeth yn cael ei wneud, byddem wedi colli mwy nag sydd gennym ar ôl.

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos cyflwr argyfyngus byd natur yng Nghymru. Mae’r argyfwng byd natur yn digwydd nawr; mae bywyd gwyllt yn diflannu ar ein gwyliadwriaeth ni.

“Bydd y cenedlaethau nesaf o blant yng Nghymru yn etifeddu amgylchedd naturiol sydd wedi’i ddirywio ymhellach; un sydd yn llai abl i gefnogi ein hanghenion am aer glân, dŵr a bwyd, yn llai abl i’n hamddiffyn rhag trychinebau fel llifogydd, sychder a newid yn yr hinsawdd ac un sydd ddim bellach yn gysylltiedig â’r bywyd gwyllt sy’n ysbrydoli ac yn adfer ein lles.

‘Pydredd’

“Dyma alwad ar Lywodraeth newydd Cymru weithredu i fod y Llywodraeth gyntaf yn ein hoes i atal y pydredd hwn ac adfer byd natur yng Nghymru.

“Yr hydref hwn, bydd y gymuned ryngwladol yn dod ynghyd i osod nodau a thargedau newydd ar gyfer y degawd nesaf – methodd y DU â chyflawni 17 allan o 20 o’r targedau a osodwyd ar gyfer 2010-2020. Addawodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru gefnogaeth gref a galw am newid trawsnewidiol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol; mae angen ymrwymiadau cryf a deddfau gwladol newydd arnom i sicrhau ein bod yn llwyddo dros y degawd nesaf.”

Dywedodd Cadeirydd Rhwydwaith Ffermio sy’n Gyfeillgar i Natur Cymru, Hilary Kehoe: “Gyda dros 80% o Gymru’n dir amaethyddol, mae ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur yn allweddol i adfer byd natur yng Nghymru. Ond er mwyn gwneud hyn, mae angen cefnogi ffermwyr yn well trwy bolisïau amaethyddol newydd sy’n hwyluso ac yn gwobrwyo ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur. ”

Mae’r RSPB yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i:

  • Osod targedau sy’n rhwymo’n gyfreithiol i atal a dechrau gwrthdroi dirywiad bywyd gwyllt erbyn 2030
  • Sefydlu corff gwarchod annibynnol sydd â’r pŵer i ddwyn y llywodraeth i gyfrif
  • Dod â Bil Amaeth Cymru/Cynllun Ffermio Cynaliadwy ymlaen yn seiliedig ar arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus, sy’n gwobrwyo ffermwyr am edrych ar ôl ac adfer natur a’r buddion niferus y mae’n eu darparu