Mae cwmni Mothercare yn adolygu ei holl fusnesau yn y DU ar ôl cyhoeddi colledion o £80 miliwn heddiw.
Mae’r grŵp, sydd â 353 o siopau yn y DU a 969 dramor, eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn cau 110 o siopau ond dywedodd y bydd yn edrych ar maint eu busnes o dan yr amgylchadau presennol.
Dyw’r cwmni ddim yn bwriadu cau rhagor o siopau ar hyn o bryd ond dywedodd y cadeirydd Alan Parker, sydd wedi cymryd yr awenau ar ôl i’r prif weithredwr Ben Gordon adael fis diwerthaf, na fyddan nhw’n diystyru hynny.
Mae perfformiad gwael a gwerth is yr Early Learning Centre yn golygu bod y grŵp wedi gwneud colledion o £81.4 miliwn yn y 28 wythnos hyd at 8 Hydref, o’i gymharu â elw o £300,000 yn y flwyddyn flaenorol.
Mae gwerthiant yn eu siopau wedi gostwng 7% wrth II gwsmeriaid dorri nôl ar wario ar eitemau drytach.
Mae’r cwmni’n disgwyl cyfnod “anodd” dros y Nadolig hefyd.
Serch hynny, dywedodd Alan Parker ei fod yn ffyddiog bod gan y busnes yn y DU “botensial i fod yn llwyddiannus.”
Mae perfformiad y grŵp dramor, lle mae ganddyn nhw 975 o siopau mewn 55 o wledydd, wedi gweld cynnydd o 15.7% yn eu gwerthiant i £338.3 miliwn.
Roedd cyfranddaliadau 4% yn is heddiw.