Neville Southall (Llun o'i gyfrif Twitter)
Fe fydd cyn gôl-geidwad Cymru, Neville Southall, yn siarad mewn rali yng Nghaerdydd dydd Sadwrn yn galw am fwy o arian i Gymru gan Lywodraeth San Steffan.

Mae Undeb y PCS wedi trefnu’r digwyddiad i alw am gynyddu’r grant bloc sy’n dod i Gymru i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae llywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig yn cael eu hariannu drwy’r Fformiwla Barnett sydd wedi’i seilio ar boblogaeth y wlad.

Mae’n ddadl ers blynyddoedd bod Cymru, sy’n derbyn tua £15bn y flwyddyn, dan anfantais dan y fformiwla a bod Yr Alban yn cael ei hariannu gormod, am nad yw’r system wedi’i seilio ar angen.

Ariannu chwaraeon

Yn ol Neville Southall, mae am weld mwy o arian yn dod i Gymru er mwyn cael mwy o bobol i gymryd rhan mewn gwahanol fathau o chwaraeon.

“Mae gynnon ni filiynau o blant ac oedolion sy’n breuddwydio am gymryd rhan mewn chwaraeon,” meddai.

“Gallai’r arian hwn drawsnewid y ffordd rydym yn ariannu chwaraeon, gan roi hwb enfawr i chwaraeon gwahanol.”

Colledion Cyngor Caerdydd 

Wrth siarad cyn y rali, mae Huw Thomas, a gafodd ei ethol ym mis Mai yn arweinydd Cyngor Caerdydd, wedi rhybuddio bod Caerdydd yn wynebu bwlch o £25m yn ei chyllideb ar gyfer 2017/18.

Gallai hynny arwain at golled o £76m dros y tair blynedd nesaf, ychwanegodd.

“Rydym yn gwneud popeth y gallwn i ddiogelu ein dinasyddion a’n gweithwyr ond mae’r pwysau ariannol sy’n dod o San Steffan yn dal i roi dewis i ni rhwng dau ddrwg.

“Rydym yn ymuno â’r diwrnod o weithredu dydd Sadwrn i hawlio cyfiawnder economaidd i nid yn unig Caerdydd ond ar gyfer Cymru gyfan.”

Mae disgwyl i’r rali ddechrau am 1 o’r gloch y tu allan i Neuadd Ddinesig Caerdydd.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Swyddfa Cymru.