Portread o Siân Williams
Ar ddechrau blwyddyn newydd, bydd nifer ohonom wedi gwneud addunedau ac yn trio ein gorau glas i gadw atyn nhw.
Cyngor Siân Williams, sy’n fentor personol yng Ngwynedd, yw anwybyddu’r holl bwysau i geisio gwneud newid mawr bob mis Ionawr, a sicrhau bod yr addunedau’n rhai cynaliadwy sy’n gweddu patrwm bywyd rhywun.