Portread o Cerys Davage

Ers cychwyn creu podlediad yn trafod anableddau ymysg pobol ifanc, mae newyddiadurwraig o Gaerdydd wedi llwyddo i ddenu un o sêr Love Island i recordio pennod. 

Mae gan Cerys Davage, sy’n 23 oed, fath o nychdod cyhyrol (muscular dystrophy) o’r enw LGMD2I, ac ers tua blwyddyn mae ganddi bodlediad o’r enw Unbalanced.