Mae gŵr a gwraig wedi dychwelyd i Gymru ac wedi canfod yr ysbrydoliaeth i greu albwm…

Deuawd sy’n cyfuno ffidil gyda gitâr electrig yw Peiriant, ac yn arbrofi gydag alawon a thonyddiaeth i greu awyrgylch a seinwedd ar eu halbwm Dychwelyd.

Yn llawn synnau electronig, samplau, a gwrthrychau hefyd, dyma ddau sy’n saernïo darnau lled-fyrfyfyr gan greu tanllwyth o deimlad heb fod angen llais na geiriau.