Yn wreiddiol o bentref Coed-llai ger yr Wyddgrug, mae Stephen yn adnabyddus ar-lein fel y Doctor Cymraeg sy’n rhoi cymorth i siaradwyr newydd.

Mae gan y Doctor Cymraeg dros 70,000 o ddilynwyr ar Instagram a 14,000 ar X (Twitter gynt).

Er iddo gael ei fagu ar aelwyd Saesneg, mae bellach wrth ei fodd yn dysgu Cymraeg i eraill, ac yn athro Cymraeg ail iaith yn Ysgol Maelor yn Llannerch Banna ym mwrdeisdref sirol Wrecsam…

Beth oedd y peth anodda’ wrth ddysgu sut i siarad yr iaith Gymraeg?

Y diffyg pobl i siarad efo oedd y peth anodda’ dw i’n meddwl. Dw i’n meddwl ar y pryd bo fi’n meddwl bod yna ddim llawer o bobol yn gallu siarad Cymraeg – mi o’n i’n anghywir! Doedd gen i ddim llawer o hyder ac yn yr ardal hon dydych chi ddim am glywed pobl yn siarad yr iaith ar y stryd, felly ro’n i’n meddwl bod yr iaith yn rhywbeth unigryw i fi!

Beth oedd y nod wrth greu’r ‘Doctor Cymraeg’ ar y We?

Yn y Cyfnod Clo, wnes i weld bod llawer o bobol ar Facebook yn gofyn cwestiynau am ddysgu siarad Cymraeg ac mi oedd yna lawer o wahanol atebion yn cael eu cynnig – atebion mewn gwahanol dafodieithoedd, gyda threigladau cywir ac anghywir ac ymadroddion gwahanol. Achos hyn, mi oedd pobl yn rhy overwhelmed ac yn anghofio am y cwestiwn, ac roedd hyn yn torri calon. Felly nod Doctor Cymraeg oedd creu platfform i bobol gael gofyn cwestiynau a chael un ateb. Erbyn rŵan, mae o wedi ehangu i rywbeth llawer iawn mwy i helpu pobol i fynd ar eu taith iaith.

Pa mor bwysig yw hiwmor i chi wrth ddysgu iaith?

Yn bendant, mae hiwmor yn bwysig… a gan ei fod yn oddrychol, dydych chi byth yn gwybod sut mae rhywun am ymateb! Mae dysgu iaith yn anodd ond ar yr un pryd dydi’r daith ddim yn gorfod bod yn slog – hynny yw, mae’n bwysig cael elfennau lle mae posib eu mwynhau. Hefyd, mae hiwmor yn helpu oherwydd os dw i’n gallu cael pobol i chwerthin wrth iddyn nhw ddysgu am y Gymraeg yna mae hynna’n wych!

Faint o effaith mae’r Gymraeg wedi ei gael ar eich bywyd chi?  

Dw i’n cofio sgrolio drwy fy ffrindiau Facebook unwaith a sylweddoli bod tua 60% o’r ffrindiau wedi dod oherwydd i fi ddysgu’r iaith. Roedd hyn yn amlygu bod yr iaith wedi cael effaith bositif ar fy mywyd i. Mae o hefyd wedi agor gymaint mwy o ddrysau i fi i ddysgu am hanes fy ngwlad. Mae’r ffaith bod fy ngwraig yn siarad Cymraeg wedi helpu gymaint a rŵan mae Bedwyr ein mab yn rhugl!

Fel ffan o dîm pêl-droed Wrecsam, pa mor aml ydych chi’n mynd i’w gweld nhw’n chwarae?

Cyn i’r tîm newid dwylo, ro’n i’n mynd bron i bob gêm. Ond erbyn heddiw mae mor anodd i gael tocynnau. Ond dw i wedi llwyddo i gael tocynnau i ychydig o’r gemau nesaf ac yn mynd yno gyda Bedwyr. Dydw i ddim yn siŵr sut dw i am egluro i Bedwyr pa mor ofnadwy oedden ni a doedden ni ddim bob amser yn y Champions League!

Beth yw eich atgof cynta’?

Dw i’n meddwl mod i’n cofio rhan o fy mhen-blwydd yn bedair oed ac roedd ffrind dad yn ffilmio ar hen cam recorder a dw i’n cofio fi a fy ffrindiau yn llyfu ochr y gacen!

Beth yw eich ofn mwya’?

Rolercosters!

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Bob dydd Gwener, mae yna gêm bêl-droed rhwng y staff yn yr ysgol felly dw i’n trio chwarae! Mae Bedwyr hefyd yn cadw fi’n ffit wrth redeg ar ei ôl!

Beth sy’n eich gwylltio?

Pobl sydd ddim yn cymryd eiliad i ystyried beth mae rhywun arall yn mynd drwyddo.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Dw i’n meddwl byswn i’n gwahodd Mark Darkeford pan oedd yn Brif Weinidog gan ei fod yn edrych yn lejend o ddyn! Hefyd, byswn i’n gwahodd yr actor Michael Sheen a James McCleen sy’n chwarae i Wrecsam.

Y bwyd fyddai brechdan gaws.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Mae hwn yn anodd achos mae gen i lot! Ond dw i’n meddwl mai’r gair ‘La’ wrth weld ffrind fel rydan ni’n ei ddweud yn Wrecsam –  ‘Iawn La?’

Hoff wisg ffansi? 

Dw i eisiau prynu gwisg ffansi Deadpool!

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Dw i’n cofio mynd ar wyliau i Lydaw a tra’r oeddwn i yno wnes i drio dysgu ychydig o Lydaweg. Ond yn anffodus wnes i gymysgu’r ‘bore da’ a’r ‘hwyl fawr’ felly roedd pawb yn edrych yn hurt arna’ i!

Parti gorau i chi fod ynddo? 

Dw i’n meddwl mai fy mharti priodas i. Hwnna’n bendant!

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Ar y cyfan, mae Bedwyr yn dawel ac yn cysgu’n dda. Ond beth sy’n cadw fi’n effro yw ceisio meddwl am syniadau am fidios i’r Doctor Cymraeg a chynllunio gwersi i’r ysgol.

Hoff ddiod feddwol?

Wrexham Lager!

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Heb os, 1984 gan George Orwell.

Hoff air?

Dw i’n meddwl achos bod y gair yn swnio’n ffantastig, mai fy hoff air yw malwoden!

Beth wnaethoch chi ddarganfod yn y cyfnod clo?

Cafodd Bedwyr ei eni yn ystod y cyfnod clo, felly’r peth mwyaf wnes i ei ddarganfod oedd sut i fod yn dad a dysgu sut i fod y tad gorau! Dw i’n dal i ddysgu.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Cyfrinach ddiflas efallai, ond fy streak o fod ar [yr app dysgu siarad Cymraeg] Duolingo heddiw yw 3,438 diwrnod [sef dros naw mlynedd] sy’n dangos pa fath o berson ydw i!