Cael dawnsio ar gyfer Andrea Bocelli yw uchafbwynt gyrfa Hanna Hughes hyd yn hyn.

A hithau â’i bryd ar fod yn ddawnswraig broffesiynol erioed, yn ddiweddar roedd Hanna yn gweithio gyda Ballet Cymru yn teithio’r wlad gyda’u sioe Giselle.

Hyd yma, mae rhai o uchafbwyntiau eraill ei gyrfa ddawnsio yn cynnwys teithio o amgylch rhai o wledydd gogledd Ewrop gyda Theatr Ddawns Denmarc.

Un o ferched Caerdydd yw Hanna, sy’n dawnsio ers pan oedd hi’n ddim o beth.

Yn blentyn bach roedd hi’n “eithaf bywiog”, felly meddyliodd ei rhieni y byddai’n well iddyn nhw ei gyrru am wersi dawnsio.

“Does dim unrhyw gysylltiad dawns gyda fi yn fy nheulu. Apparently roedd gen i lot o botensial yn ifanc,” meddai.

Enillodd ysgoloriaeth i fynd i Ysgol Haf yr Academi Ddawns Frenhinol yn Llundain pan oedd hi’n naw oed.

Ar ôl hynny, bu’n rhan o Raglen Partneriaid yr Ysgol Ballet Frenhinol, a oedd yn golygu ei bod hi’n cael teithio i Lundain bob penwythnos ar gyfer gwersi arbenigol trwy gydol ei harddegau.

Trodd ei sylw at ddawnsio cyfoes wedi hynny, gan hyfforddi ychydig gyda Rhaglen Partneriaid Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, cyn mynd i wneud ei hyfforddiant yn y London Contemporary Dance School yn 18 oed.

Roedd Hanna’n “dwli ar ddawnsio a pherfformio” pan roedd hi’n ifanc iawn, meddai.

“Rhywbeth ambyti bod ar lwyfan, ac mae’r dechneg yn fascinating – mae yna lot to get your teeth into, ac wrth i fi fynd yn hŷn dw i wedi mynd yn fwy a mwy obsessed.

“Dw i ddim rili wedi colli’r cariad.

“Dw i’n dwli ar yr elfen berfformio, dw i’n dwli ar yr elfen dweud stori hefyd,” meddai Hanna, sy’n dweud ei bod hi’n “fwy o ddawnsiwr cyfoes” ond ei bod hi’n “ffit da” ar gyfer Ballet Cymru.

“Gyda dawnsio cyfoes mae e’n gallu bod lot fwy agored o ran thema… o ran bale, chi’n gorfod dweud stori fel bod y gynulleidfa yn deall e.”

Mae Hanna wrth ei bodd â’r teithio sy’n rhan o’r gwaith, ac ychydig flynyddoedd yn ôl cafodd gyfle i berfformio yn Nenmarc, yr Almaen, a’r Swistir.

“Fe wnes i wneud international tour gyda’r Danish Dance Theatre yn 2015/16, roedd hwnna’n hwyl achos roeddech chi’n cael gweld llefydd fyse chi byth yn eu gweld os fyse chi ddim yn dawnsio.”

Cafodd Hanna’r cyfle i berfformio ar gyfer canwr opera enwocaf y byd, mae’n debyg, Andrea Bocelli mewn lleoliadau dros y Deyrnas Unedig, gan gynnwys cyngerdd o flaen miloedd o bobl yn yr O2 Arena yn Llundain, yn ystod un o’i deithiau rhyngwladol.

“Fe wnes i wneud solo ac roedd hwnna’n amazing.

“Roedd o fel once in a lifetime kind of thing, fyswn i’n dweud mai hwnna yw highlight gyrfa fi mor belled.”

Yn ogystal â dawnsio yn broffesiynol, mae Hanna’n dysgu’r ddawn i eraill ac wedi gwneud rhywfaint o waith coreograffi i gwmni ieuenctid y Frân Wen ac i brosiect Sbarc yn Galeri Caernarfon.

“Fel freelancer yng Nghymru chi’n gorfod goroesi,” meddai.

“Dw i’n joio gweithio gyda phlant, yn enwedig plant o Gymru achos mae o mor brin iddyn nhw gael siawns i ddysgu dawns drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Fi’n teimlo bod e’n bwysig iawn fy mod i’n gwneud hynny. Achos wnes i byth cael y profiad yna, wnes i byth ddysgu dawnsio drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Roedd e wastad yn rhywbeth Saesnigaidd, neu oeddwn i hyd yn oed yn gorfod mynd dros y ffin – Llundain, neu Bath neu Bryste – i gael gwersi.

“Mae e’n bwysig iawn, mae Ballet Cymru yn really keen i wneud y math yna o beth yn y dyfodol, felly gobeithio fydda i’n rhan o’r sgwrs yna.”

Yn ystod y pandemig bu’n cadw’n brysur drwy gynnal gwersi ar Zoom.

“Roeddwn i ynghanol swydd lyfli efo National Dance Company Wales lle’r oeddwn i’n gwneud opera gyda’r Welsh National Opera, roedd e’n amazing.

“Roeddwn i’n dysgu plant, roeddwn i hefyd yn dysgu oedolion yn breifat, ac weithiau yn gwneud workshops.

“Trïo cadw mor in the loop ag roeddwn i’n gallu gyda shwd gymaint o gwmnïau a phobol ddiddorol â phosib, boed hynny am ddim neu beidio.”

Derbyniodd Hanna y swydd gyda Ballet Cymru fis Tachwedd diwethaf, a hwn yw’r cytundeb cyntaf iddi dderbyn sy’n canolbwyntio ar fale’n unig.

“Lan at y pwynt yna roedd e’n eithaf scary, do’n i ddim yn gwybod be yn y byd oedd am ddigwydd. Wedyn fe wnaethon nhw gymryd siawns arnaf i, a dw i’n rili diolchgar.”

Dros y blynyddoedd, mae Hanna, sy’n hoff iawn o ioga ac wrth ei bodd â thecstilau a chreu dillad, wedi troi ei llaw at sawl swydd.

“Rydych chi’n gorfod bod yn greadigol pan rydych chi’n freelance a does gennych chi ddim lot o waith – dw i wedi bod yn events planner, dw i wedi bod yn TV presenter i S4C am bach!

“Rhaglen blant o’r enw M.O.M., roedd honna’n rhaglen ynglŷn â dawns.

“Roedd e’n hwyl, a jyst da i allu gwneud rhywbeth gwahanol. Efo dawnsio, mae’n gorfforol iawn, ond efo’r swydd yma roeddech chi’n dysgu sut i siarad yn gyhoeddus a thuag at y camera.

“Roeddwn i’n arfer bod yn make-up artist am ychydig bach, felly dw i dal i joio gwneud stwff fel yna.”

Mae pen Hanna’n llawn dawnsio a dysgu ar y funud, meddai, ond mae hi’n cyfaddef bod gwylio Ru Paul’s Drag Race fel hobillawn amser”.