Un o’r sioeau y mae’r cwmni theatr Dirty Protest yn eu cyflwyno yn rhan o Ŵyl Ffrinj Caeredin eleni yw drama Zoom gan Rhiannon Boyle, Kill Me Now.

Mae’r comedi tywyll wedi cael ei ysbrydoli gan brofedigaeth yr awdur o Gaergybi yn Ynys Môn, sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, ar ôl iddi golli ei thad tua thair blynedd yn ôl.