Wrth edrych yn ôl ar ei yrfa, mae cyn-Geidwad yr Amgueddfa Lechi yn meddwl ein bod wedi canolbwyntio gormod ar y dynion wrth adrodd hanes y diwydiant…

Mae’r Dr Dafydd Roberts wedi rhoi’r gorau i’w swydd yn Geidwad yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis, ar ôl bron i 40 mlynedd yn rhannu hanes y diwydiant gyda’r byd.