Cwpan FA Lloegr ar drip hyrwyddo diweddar i Begwn Y De (llun: Martin Hartley/PA)
Fe fydd gêm Caerdydd yn erbyn Colchester yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr ar nos Wener 2 Ionawr 2015 yn cael ei darlledu yn fyw ar BBC Wales.

Cadarnhaodd y clwb heddiw y byddai’r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn cael ei symud i’r nos Wener er mwyn cael ei chwarae o flaen y camerâu, gyda’r gic gyntaf am 7.45yh.

Bydd gêm Abertawe i ffwrdd o gartref yn erbyn Rhydychen neu Tranmere yn cael ei chwarae am 3.00yp ar ddydd Sadwrn 3 Ionawr, gan olygu na fydd hi’n fyw ar y teledu.

Mae Wrecsam yn teithio i Stoke ar ddydd Sul 4 Ionawr, gêm sydd hefyd yn dechrau am 3.00yp, ond hyd yn hyn does dim cyhoeddiad wedi bod y bydd y gêm yn cael ei darlledu’n fyw.

Arian teledu

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, trefnwyr Cwpan FA, eisoes wedi cyhoeddi pa gemau fydd yn cael eu darlledu drwy Brydain ar sianeli BT Sport a’r BBC.

Y pum gêm sydd wedi eu dewis yw Dover v Crystal Palace, Accrington neu Yeovil v Man United, Arsenal v Hull, Wimbledon v Lerpwl, ac Everton v West Ham.

Roedd Wrecsam wedi gobeithio y byddai eu gêm nhw yn cael eu dewis fel un o’r pump gan eu bod nhw yn dîm o’r Gyngres sydd yn herio Stoke o’r Uwch Gynghrair, pedair adran yn uwch na nhw.

Byddai’r clwb wedi derbyn £144,000 o arian teledu petai eu gêm wedi cael ei ddewis i gael ei darlledu drwy Brydain.