Glywsoch chi erioed am ffilm Six Minutes to Midnight (2021)? Mae’n seiliedig ar stori wir am ysgol fonedd yn Bexhill-on-Sea i ferched uwchfilwyr y Natsïaid, ac athro Saesneg sy’n ffeindio’i hun yng nghanol ysbïwyr a chyhuddiad o lofruddiaeth. Gyda chast o fawrion Lloegr fel y Fonesig Judi Dench a Jim Broadbent, ar y cyd ag Eddie Izzard, dylai fod wedi llwyddo. Ond llugoer iawn fu’r ymateb, gan ennyn sgôr o 36% gan feirniaid gwefan Rotten Tomatoes a 2/5 gan y Guardian. Tydi’r cyhoeddiad Americanaidd Variety ddim yn garedig iawn chwaith, gan awgrymu bod cyfran helaeth o gyllideb y ffilm wedi mynd ar wisgoedd y cyfnod.

Be’ mae hwn yn mwydro am fflop o ffilm Seisnig, meddech chi? Am mai ein hasiantaeth ffilm genedlaethol ni a’i hariannodd, fel sawl ffilm arall heb affliw o ddim i’w ddweud am Gymru. Un arall sydd ar y gweill gan asiantaeth Ffilm Cymru Wales yw Unicorns am fecanig o dad sengl sy’n cwympo mewn cariad â pherfformiwr drag. Nid yn sîn fywiog Caerdydd chwaith, ond Llundain siŵr iawn, a chyn-actor Eastenders yn chwarae rhan y dyn ‘strêt’.

Mae’n wir bod trefi glan môr Penarth a Llansteffan yn actio arfordir Dwyrain Sussex ddiwedd y 1930au yn Six Minutes to Midnight, ond dyna ni. Gobeithio i’r drefn bod ambell ecstra, rhedwr a chwmni arlwyo lleol wedi elwa ar y cynhyrchiad ciami. Ond mae hyd yn oed ffilmiau am Gymru yn castio pobol ddŵad. Maxine Peake, yr actores glodwiw o Bolton, oedd y fam sengl yn Gwen (2018), wedi’i gosod yng nghanol caledi chwarelyddol Eryri’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Toni Collette o Sydney fu’n chwarae rhan barmêd o Gaerffili fagodd geffyl rasio llwyddiannus yn stori wir Dream Horse (2021), a Samantha Morton o Nottingham oedd Liz Evans, dynes trin gwallt o Gaerfyrddin wnaeth frwydro i gadw drysau’r Lyric ar agor yn y 1990au yn Save the Cinema (2022). Meddai Stephen Price yn Nation.Cymru ar y pryd:

“As was no surprise to anyone, her accent sounded like nothing ever heard in Wales before, and the entire production felt like an unintentional parody.”

Ydan ni wir wedi symud ymlaen ers addasiad siwgr-candi Hollywood o How Green Was My Valley yn 1942, pan oedd cast o Wyddelod a Chanadiaid yn chwarae Morganiaid y Rhondda?

Mae Ffilm Cymru Wales wedi ariannu ambell berl uniaith Gymraeg, cofiwch. Y ddiweddaraf yw’r ffilm arswyd fodern Gwledd (2022) gan Roger Williams a Lee Haven Jones, enillodd sgôr o 80% ar wefan Rotten Tomatoes a sawl gwobr gan wyliau ffilm rhyngwladol o Bortiwgal i Dde Corea. Dwi’n cofio gweld y llall mewn sinema yn y ddinas, Yr Ymadawiad (2016), ffilm iasol arall gan y cyfarwyddwr Gareth Bryn na chafodd hanner ddigon o sylw, am ddau gariad ifanc sy’n canfod eu hunain mewn rhyw rith-fyd wedi damwain car. Mae Annes Elwy, un o’n sêr ifainc gorau, yn wyneb cyfarwydd yn y ddau gynhyrchiad.

Mae llwyddiant Paul Turner, Hedd Wyn, a’r enwebiad Oscar fel y ffilm dramor orau yn 1993 fel byd arall bellach, wrth i ddiwydiant ffilm Iwerddon saethu i’r brig. Roedd 2023 yn flwyddyn euraid i’r Gwyddelod, gyda 14 o enwebiadau Oscar rhwng The Banshees of Innisherin a’r ffilm iaith Wyddeleg An Cailín Ciúin (neu The Quiet Girl) wnaeth elw o $6.03m yn sinemâu’r byd.

A oes tro ar fyd yn sgil sefydlu cronfa ‘Sinema Cymru’ ddiwedd y llynedd, diolch i gytundeb cydweithio Plaid â’r Llywodraeth Lafur? Gobaith o “ddod â’n hiaith i gynulleidfa fyd-eang a datblygu a chefnogi’r sector ffilm”, ys dywed Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd? Eisoes, cafodd cyllid datblygu o £140,000 ei gyhoeddi i ddatblygu pedwar syniad cychwynnol cyn y bydd o leiaf un yn ennill cyllid cynhyrchu pellach ac ymddangosiad mewn gwyliau ffilm a’r sinemâu maes o law. Mae syniadau eleni’n amrywio o addasiad o nofel Pijin Alys Conran, i stori am gymuned sy’n wynebu lluoedd arallfydol yn Estron.

Mwy o brosiectau ‘Gwnaed yng Nghymru’ o’r iawn ryw, felly, a llai o daflu arian prin at gyfarwyddwyr a thespians dros Glawdd Offa.