Mae cwmni BT wedi osgoi streic gan ei weithwyr drwy gynnig codiad cyflog o 9% dros dair blynedd iddyn nhw.
Roedd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) wedi cynnal pleidlais ynglŷn â mynd ar streic ac wedi bygwth gweithredu diwydiannol.
Dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi dod i gytundeb gyda’r undebau ac y byddai’r cynnig yn cael ei roi gerbron y gweithwyr mewn pleidlais gudd.
Yn ôl yr undeb mae ’n gytundeb “gwych” ac yn un o’r mwyaf o’i fath mewn unrhyw ran o Brydain.
‘Er lles pawb’
“Ar ôl methu a dod i gytundeb ynglŷn â’r ddwy flynedd nesaf, rydyn ni wedi dod i gytundeb tair blynedd a fydd yn parhau tan fis Mawrth 2013,” meddai BT.
Dywedodd Prif Weithredwr y cwmni, Ian Livingston, bod y cytundeb yn “dda i BT, ei weithwyr, ei gyfranddalwyr a’i gwsmeriaid”.
“Fe fydd BT yn elwa ar gyfnod hir o sicrwydd tra bod gan ein gweithwyr sefydlogrwydd ariannol mewn amser sy’n addo bod yn galed,” meddai.
“Dw i’n falch ein bod ni ac arweinwyr yr undebau wedi gweithio gyda’n gilydd er mwyn datrys y mater yma. Fyddai gweithredu diwydiannol ddim wedi bod o fudd i neb.”