Bydd ymgyrchydd iaith a gafodd ei garcharu yn Lerpwl ddiwedd y mis diwethaf, yn cael ei ryddhau heddiw.

Fe gafodd Osian Jones, 32 o Ddyffryn Nantlle, ei garcharu am 28 diwrnod ar ddiwedd mis Tachwedd, am wrthod talu dirwyon ar ôl paentio sloganau ar rai o siopau’r Stryd Fawr.

Roedd yn gweithredu yn ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros fesur iaith cyflawn a thros osod dyletswydd ar gwmnïau preifat i ddefnyddio’r Gymraeg.

“Mae dyfodol y Gymraeg yn y fantol oherwydd bod gwleidyddion yn gwrthod cymryd y Gymraeg o ddifri,” meddai, mewn datganiad cyn gadael y carchar.

“Er gwaethaf cefnogaeth frwd y cyhoedd i’r Gymraeg, gallai’r ddegawd nesaf weld dinistrio’r Gymraeg fel iaith gymunedol, oherwydd cyfuniad o ddifaterwch a methiant gwleidyddion, cyfalafwyr, a’r sefydliad Cymraeg.”

Fe ddywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Menna Machreth, bod “angen i’r Llywodraeth weithredu er mwyn sicrhau hawliau pobol Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg yn y sector preifat”.