Mae streiciau arfaethedig yng ngwaith dur Port Talbot, oedd wedi arwain at Tata Steel yn dweud y byddai’n cau’r ddwy ffwrnais chwyth yn gynharach na’r disgwyl, wedi cael eu canslo.

Cafodd y gweithwyr wybod yr wythnos ddiwethaf y gallai’r safle gau ei ddrysau am y tro olaf erbyn Gorffennaf 7 o ganlyniad i’r streic.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i un o’r ffwrneisi chwyth ar y safle gau erbyn diwedd y mis yma, ac i’r ail ddod i ben erbyn mis Medi.

Ond oherwydd y streic, dywedodd penaethiaid nad oedd sicrwydd y byddai digon o adnoddau ar y safle i gadw gweithwyr yn ddiogel.

Roedd disgwyl i hyd at 1,500 o weithwyr fynd ar streic, sydd bellach wedi cael ei chanslo.

Tata yn “bygwth gweithwyr”

Protest yn erbyn cynlluniau Tata i newid i ffordd fwy ecogyfeillgar o gynhyrchu dur, gan golli miloedd o swyddi, fyddai’r streic.

Bydd ffwrnais arc trydan newydd gwerth £1.25bn, sy’n toddi dur sgrap, yn dechrau cael ei hadeiladu ym Mhort Talbot yn ystod haf 2025.

Mae disgwyl i bron i 2,800 o swyddi gael eu colli pe bai’r cynlluniau’n mynd yn eu blaenau, sy’n cyfateb i hanner gweithlu’r ffatri.

Dywedodd Uno’r Undeb yr wythnos ddiwethaf fod penaethiaid Tata yn bygwth gweithwyr, ac na fyddai hynny’n eu hatal nhw rhag gweithredu.

Mae Tata hefyd wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn pleidlais yr undeb i weithredu’n ddiwydiannol.

Dydy Llywodraeth Cymru ddim chwaith yn cefnogi penderfyniad y penaethiaid i gau’r ffwrneisi.

Annog trafodaeth

Mae’r tro pedol yn golygu y gall trafodaethau rhwng Tata a’r undebau am fuddsoddiad yn y safle yn y dyfodol barhau.

Ond mae David Rees, Aelod Llafur o’r Senedd sy’n cynrychioli Aberafan, yn galw ar Tata i “gadarnhau’n gyflym” na fydd y safle yn cau yr wythnos hon.

“Bydd hyn yn caniatáu trafodaethau rhwng Tata a’r undebau, yn ogystal â rhwng Tata a Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Rydym yn croesawu unrhyw drafodaethau sy’n dod â’r gweithwyr dur a Tata at y bwrdd i ddatrys y ffordd orau o gefnogi swyddi yn y tymor byr, gan y bydd cau’r ffwrneisi chwyth yn gynnar yn dod â gofid ychwanegol i gymunedau sydd eisoes yn delio â digon fel y mae,” meddai Samuel Kurtz, llefarydd economi ac ynni’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Dim ond i weithlu Tata mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi talu gwasanaeth gwefus, gan fethu â chyfrannu ceiniog i’r bwrdd pontio, ac nid yw maniffesto Llafur y Deyrnas Unedig yn dweud unrhyw beth am yr hyn y byddai’n ei wneud yn wahanol i gefnogi gweithwyr dur Port Talbot.”