Mae timau pêl-droed busnesau yn Sir Gaerfyrddin a’r cyffiniau wedi dod ynghyd i geisio datrys digartrefedd yng ngŵyl bêl-droed stryd gyntaf Chwaraeon a Hamdden Actif yn Llanelli.

Nod y cynllun yw cefnogi pobol sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref, drwy ddefnyddio chwaraeon i wella’u hiechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal ym Mharc Stebonheath, ac fe gafodd ei noddi gan gwmni adeiladu Bouygues UK.

Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n gweithio ar gam cyntaf Pentre Awel, sef prosiect fydd yn cynnig darpariaeth ym maes ymchwil meddygol a gofal iechyd, ynghyd â chefnogi ac annog pobol i fyw bywydau egnïol ac iach.

Mae’r rhaglen yn gweithredu fel llwybr i ymgynghorwyr tai a chyflogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin gael cynnal cyswllt rheolaidd ag unigolion sydd mewn perygl mewn sesiynau hyfforddi wythnosol yn Llanelli.

Yr ŵyl

Fe gymerodd naw tîm ran yn y gystadleuaeth a thîm pêl-droed stryd Actif oedd ar y brig ar ôl curo Dinas Abertawe ar giciau o’r smotyn.

Cafodd pawb gymerodd ran fedalau gan gwmni dur Tata.

Roedd elusennau a sefydliadau amrywiol hefyd yn bresennol, gan gynnwys yr elusen iechyd meddwl MIND a Byddin yr Iachawdwriaeth, sy’n cynnig cymorth hanfodol i’r rhai sydd ei angen.

“Ers gweithio ar Bentre Awel, mae Bouyges UK wedi ymrwymo i raglen eang o fuddion cymunedol i wireddu buddion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol,” meddai Nina Williams, Ymgynghorydd Gwerth Cymdeithasol Bouygues UK.

“Roedd yn wych noddi twrnamaint pêl-droed stryd Actif.

“Mae gwerth cymdeithasol yn hynod bwysig i ni yn Bouygues UK, ac roedd y digwyddiad hwn yn gyfle perffaith i gefnogi’r rhai mewn angen yn y gymuned leol mewn ffordd wirioneddol gydweithredol.”

Ychwanega’r Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth ar Gyngor Sir Caerfyrddin, fod y “digwyddiad yn llwyddiant ysgubol i godi ymwybyddiaeth am y materion sy’n ymwneud â digartrefedd”.

“Mae’r rhaglen pêl-droed stryd yn gweithredu fel lle diogel a dibynadwy, lle gall unigolion gael cymorth mewn amgylchedd cynhwysol sy’n canolbwyntio ar chwaraeon,” meddai.

Cefnogi pobol

Mae Pêl-droed Stryd Cymru yn fenter sy’n cefnogi pobol sydd wedi’u heithrio ledled Cymru, drwy gyfrwng pêl-droed, ac mae noddwyr y rhaglen yn cynnwys yr actor Michael Sheen.

Dywed llefarydd ar ran Pêl-droed Stryd Cymru fod eu “sesiynau a digwyddiadau wythnosol yn cael effaith mor gadarnhaol ar gymunedau lleol”.

“Maen nhw’n rhoi cyfle i unigolion wneud ffrindiau newydd, magu hyder, a chreu trefn dda,” meddai.

“Mae’r berthynas ddeinamig sydd wedi’i meithrin gyda Chwaraeon a Hamdden Actif wedi darparu sesiynau newydd o bêl-droed stryd mewn ardal arall o Gymru.

“Mae’r berthynas hefyd yn meithrin newid cadarnhaol ym mywydau mwy o unigolion ledled Cymru.”

Mae Chwaraeon a Hamdden Actif yn cynnal sesiynau pêl-droed stryd wythnosol yng Nghanolfan Hamdden Llanelli, bob dydd Gwener am 12 o’r gloch.