Mae deisebwyr wedi galw ar Gyngor Sir i feddwl yn ofalus wrth adolygu gwasanaeth menywod lolipop, ar ôl iddyn nhw nodi bod y toriadau’n annerbyniol.

Llofnododd mwy na 100 o drigolion y ddeiseb i wrthwynebu cynlluniau cychwynnol Cyngor Bro Morgannwg i adolygu rolau menywod lolipop ym mis Mawrth 2024.

Dywed y Cyngor eu bod nhw am barhau â’u hadolygiad, ond cafodd sicrwydd ei roi i gynghorwyr a thrigolion nad oes unrhyw gynlluniau pellach ar hyn o bryd i ddiswyddo neb.

Sicrwydd

Yng nghyfarfod Pwyllgor Craffu’r Amgylchedd ac Adfywio’r Cyngor ddydd Mawrth (Mehefin 18), dywedodd un deisebydd, Paula King, fod eu dynes lolipop yn Sain Tathan wedi cadw plant yr ardal yn ddiogel ers tair ar ddeg o flynyddoedd.

“Mae hi’n rhoi sicrwydd i’r plant, ac yn eu dysgu sut i groesi’n ddiogel,” meddai.

“Hebddi hi, dw i’n gwybod na fyddai rhieni’n gadael i’w plant gerdded na beicio i’r ysgol ar eu pen eu hunain, sy’n golygu y byddai eu hannibyniaeth yn cael ei dwyn a mwy o rieni yn gyrru i’r ysgol.”

Bu’n rhaid i Gyngor Bro Morgannwg, fel awdurdodau lleol ledled y Deyrnas Unedig, fynd i’r afael â bylchau cyllidebol cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Eleni, roedd yn rhaid i’r Cyngor bontio bwlch gwerth £7m oherwydd y costau cynyddol a’r galw cynyddol am ei wasanaethau.

Heriol

Mewn proses gosod cyllideb, gafodd ei disgrifio fel un o’r rhai mwyaf heriol wynebodd yr awdurdod lleol ers blynyddoedd, edrychodd Cyngor Bro Morgannwg ar wasanaethau anstatudol, fel y gwasanaeth hebrwng croesfannau ysgol, er mwyn gwneud toriadau.

Fe wnaethon nhw nodi bod gwerth tua £100,000 o arbedion posibl y flwyddyn yn y gwasanaeth hebrwng croesfannau ysgol.

Cafodd unarddeg aelod o staff eu hysbysu bod posiblirwydd eu bod nhw am gael eu heffeithio gan yr adolygiad.

Dadleuodd deisebwyr a chynghorwyr y byddai’r cynnig gwreiddiol yn gwneud arbediad bach o’i gymharu â’r hyn fyddai’n cael ei golli.

“Mae’n rhaid i ni gyd gytuno bod bywyd plentyn yn werth mwy na’r swm o arian maen nhw’n dweud sy’n cael ei arbed gan y toriad hwn,” meddai Paula King.

Mae’r ysgolion sydd wedi’u heffeithio gan yr adolygiad yn cynnwys:

  • Ysgol Gynradd St Illtyd
  • Ysgol Gyfun Llanilltud
  • Ysgol Dewi Sant
  • Ysgol y Draig
  • Ysgol Gynradd Sain Tathan
  • Ysgol Gymraeg Sant Curig
  • Ysgol Gynradd Gatholig ac Ysgol Fabanod San Helen
  • Ysgol Gynradd Dinas Powys
  • Ysgol Gynradd Cogan
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr-y-fro

Dywed Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Gwasanaethau Tai y Cyngor, eu bod nhw wedi gofyn i’r ysgolion a fyddai modd iddyn nhw gymryd y gwasanaeth hebrwng croesfannau ysgol eu hunain, naill ai’n rhannol neu’n llawn.

Ychwanega fod yr ysgolion wedi ysgrifennu’n ôl i egluro bod ganddyn nhw eu heriau cyllidebol eu hunain.

“Maen nhw’n cydnabod pa mor bwysig yw’r gwasanaeth, a hoffen nhw helpu os gallan nhw, ond dydyn nhw methu.”

Mae’r adran wedi dod o hyd i £85,000 o’r £100,000 mae’n rhaid iddyn nhw ei arbed o “ffynonellau eraill”, yn ôl swyddogion y Cyngor.

Dywed y bydd yr adolygiad parhaus yn edrych ar a unrhyw gyfleoedd i wella neu osod croesfannau ar safleoedd ysgolion, a gweld a yw lleihau nifer y staff dros gyfnod o amser drwy “broses naturiol” yn briodol ai peidio.

“Rydym wedi siarad â’r staff dan sylw, ac roedden nhw’n amlwg yn poeni am eu swyddi, a’n gobaith yw ein bod ni wedi tawelu eu meddyliau,” meddai wedyn.

Mae nifer y menywod lolipop sy’n gweithio i’r Cyngor wedi gostwng dros y pymtheg mlynedd diwethaf.

Ond ychydig flynyddoedd yn ôl, meddai Miles Punter, roedd 30 o ferched lolipop.

Ymhlith y rhesymau tu ôl i’r gostyngiad mewn staff gafodd eu rhoi roedd cyflwyno croesfannau a pharthau 20m.y.a.

Dywed adroddiad gan y Cyngor na chafodd llawer o swyddi eu hail-benodi pan wnaeth staff ymddeol.

Fe wnaeth y Cynghorydd Mark Hooper, aelod o Bwyllgor Craffu’r Amgylchedd y Cyngor, ganmol y deisebwyr am dynnu sylw at eu pryderon, waeth beth yw penderfyniad y Cyngor i barhau â’u hadolygiad.

Serch hynny, rhybuddiodd yn erbyn y syniad o osod croesfannau yn lle menywod lolipop, gan nodi eu bod yn rhan hanfodol o’r gymuned.

“Rwy’n meddwl bod angen diogelu gwasanaethau fel y rhain ar y lefel uchaf posibl,” meddai.