Mae Aelod Ceidwadol o’r Senedd yn galw am wneud Hybu Cig Cymru’n gorff hollol annibynnol, yn sgil pryderon am “ddiwylliant bwlio gwenwynig” o fewn y sefydliad.

Mae James Evans, llefarydd materion gwledig y blaid, yn rhybuddio bod y diwydiant ffermio’n colli ffydd yn Hybu Cig Cymru, sef bwrdd marchnata cig Cymru.

Dywed fod Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru wedi camu o’r neilltu, fod dau uwch swyddog yn gadael, a bod aelodau’r bwrdd ar fin ymddiswyddo.

“Ni chafodd cofnodion y bwrdd eu cyhoeddi ers 2022, a does dim datganiadau ariannol nac adroddiadau blynyddol diweddar ar eu gwefan ers 2021,” meddai.

“Mae Hybu Cig Cymru’n canfod eu hunain mewn sefyllfa bryderus iawn.

“Mae’r corff yn tanlinellu diwydiant sy’n werth dros £1bn i Gymru.”

‘Colli ffydd’

Dywedodd yr Aelod o’r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed fod diwylliant bwlio gwenwynig a materion llywodraethu o fewn y cwmni sydd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru’n tanseilio hyder ffermwyr.

“Mae llawer o bobol yn y diwydiant hefyd yn bryderus iawn ynghylch a oes gan y bwrdd a chadeirydd y bwrdd y grym a’r gallu sydd ei angen arnyn nhw i droi’r sefydliad o gwmpas, mewn gwirionedd,” meddai.

“Mae’r diwydiant yn colli ffydd.”

Yn ystod cwestiynau materion gwledig ddoe (dydd Mercher, Mehefin 19), galwodd James Evans am fwrdd marchnata cig hollol annibynnol, wedi’i redeg gan ffermwyr a phroseswyr ar ran ffermwyr a phroseswyr.

“Mae llawer o ffermwyr dw i’n siarad â nhw yn dweud wrtha i, ‘Ewch ag e i ffwrdd o Lywodraeth Cymru, rhowch e’n ôl i’r diwydiant, rhowch e i’r proseswyr, gadewch iddyn nhw benodi pobol yn uniongyrchol i’r bwrdd, ac os nad ydyn nhw’n perfformio, mae modd iddyn nhw fynd â nhw i ffwrdd,” meddai wrth y Senedd.

‘Gwaethygu’

Rhybuddiodd Llŷr Gruffydd, llefarydd materion gwledig Plaid Cymru, fod y sefyllfa’n “mynd o ddrwg i waeth”, ar ôl i ddau gyfarwyddwr ymddiswyddo yr wythnos hon.

Cododd cynrychiolydd gogledd Cymru bryderon am lefelau absenoldeb a throsiant staff, wrth iddo fe ategu’r alwad am ymyrraeth gan y Llywodraeth.

Wrth bwyso ar Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, rhybuddiodd e ynghylch y perygl o danseilio ffydd talwyr ardollau Hybu Cig Cymru ac enw da cig coch Cymru.

“Am ba hyd fyddwch chi’n dweud mai problem rhywun arall yw hon?” gofynnodd.

“Mae’n rhaid i ni adael i Hybu Cig Cymru weithio drwy’r materion hyn, mewn gwirionedd, a’u gwneud nhw’n gywir ac yn ddyfal,” meddai wrth ateb.

“Dyna rôl Hybu Cig Cymru.

“Dydy hwn ddim yn fater i fi gamu i mewn ac, mewn rhai ffyrdd, dweud wrth Hybu Cig Cymru beth i’w wneud, nac ymyrryd yn yr hyn sy’n drafodaethau sensitif ac anodd gydag aelodau presennol a chyn-aelodau.”

‘Sicrwydd’

Dywedodd Huw Irranca-Davies nad yw e wedi clywed llais unsain gan ffermwyr yn galw am wneud Hybu Cig Cymru’n annibynnol i Lywodraeth Cymru.

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, sydd hefyd yn gyfrifol am newid hinsawdd, gydnabod pryderon ynghylch llywodraethiant, gan ddweud ei fod e wedi cyfarfod â’r cadeirydd dros yr wythnosau diwethaf er mwyn ceisio sicrwydd.

“Yn nhermau eu busnes dydd i ddydd a’u perfformiad, maen nhw’n bwrw ymlaen,” meddai wrth y Siambr.

“Dw i wedi cael y sicrwydd hwnnw nad yw eu perfformiad wedi cael ei effeithio…

“Ond yn amlwg, dw i’n ymwybodol o’r materion llywodraethiant mewnol, a dw i’n siŵr eu bod nhw’n canolbwyntio ar eu datrys nhw.”

Tynnodd Huw Irranca-Davies, cyn-Aelod Seneddol a chyn-weinidog yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig o dan arweiniad Gordon Brown, fod Heather Anstey-Myers wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr dros dro ym mis Ionawr.