Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ymchwiliad yn dilyn cyfaddefiad ymgeisydd seneddol ei fod e wedi betio ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol.

Mae Craig Williams, ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer sedd Maldwyn a Glyndŵr, yn un o gydweithwyr pennaf Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Yn dilyn datganiad yn gwneud y cyfaddefiad ei fod e wedi betio mewn siop yn ei etholaeth ychydig ddiwrnodau cyn cyhoeddi’r etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4, dywedodd ei fod e wedi gwneud “camgymeriad enfawr”.

Mae’r Comisiwn Gamblo yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn cynnal ymchwiliad.

Beth oedd e’n ei wybod?

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, dylid cynnal ymchwiliad er mwyn deall beth yn union roedd Craig Williams yn ei wybod cyn rhoi bet ar ddyddiad yr etholiad.

Maen nhw hefyd yn galw am roi unrhyw ohebiaeth rhwng Craig Williams, Rishi Sunak a staff Rhif 10 Downing Street, gan gynnwys negeseuon WhatsApp, i’r ymchwiliad arfaethedig hwnnw.

Dywed y blaid ei bod hi’n “hanfodol” bod atebion yn cael eu rhoi i’r cyhoedd cyn yr etholiad.

“Rhaid i Rishi Sunak beidio â bod mor wan, a chynnal ymchwiliad gan y Swyddfa Gabinet i’r sgandal ddiweddaraf hon,” meddai Daisy Cooper, dirprwy arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Mae angen yr ymchwiliad hwn er mwyn deall pwy oedd yn gwybod beth a phryd, a datgelu a oedd Craig Williams yn gwybod dyddiad yr etholiad pan oedd e’n gwneud y bet.

“Mae’r Blaid Geidwadol yng nghanol slebogrwydd a sgandalau ers blynyddoedd, ac mae pobol Prydain wedi cael hen ddigon o hynny.”