Lai na mis cyn yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4, mae ymchwil newydd yn dangos nad yw 70% o bobol ifanc dan ddeunaw oed yn gwybod enw eu haelod seneddol.

Yn ôl yr arolwg gan Opinium, dydy 59% ddim yn gallu enwi’r blaid mae eu haelod seneddol yn perthyn iddi, a 79% ddim yn gwybod beth yw blaenoriaethau eu cynrychiolwyr etholedig.

Mae 39% yn dweud nad ydyn nhw’n deall gwaith gwleidyddion.

Er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth yma, bydd ymgyrch ‘Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais’ yn arwain tuag at etholiad i blant ddiwedd mis Mehefin.

Mae tua 50,000 o bobol ifanc wedi cofrestru i gymryd rhan yn yr ymgyrch, wrth i’r prosiect addysg ddysgu plant am wleidyddiaeth a’r broses ddemocrataidd cyn cynnal etholiad torfol i blant.

Bydd canlyniadau’r etholiad hwnnw’n cael eu cyhoeddi ar Fehefin 28, wythnos cyn yr etholiad cyffredinol ar gyfer San Steffan.

Ymhlith yr unigolion, elusennau a sefydliadau fu’n cefnogi’r arolwg mae Achub y Plant Cymru, Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, Platfform4YP, Urdd Gobaith Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru.

Ystadegau pellach

Yn ôl ymchwil gafodd ei gwblhau’n flaenorol, dim ond un ym mhob deg o blant yng Nghymru a Lloegr gyda’i gilydd sy’n credu bod gwleidyddion bob amser neu’n aml yn canolbwyntio ar anghenion pobol ifanc wrth wneud penderfyniadau.

Dim ond 9% o bobol ifanc wyth i 17 oed sy’n teimlo bod gwleidyddion yn poeni am anghenion pawb yn gyfartal, gydag oedolion o oedran gweithio yn cael eu hystyried yn ddemograffeg sy’n cael blaenoriaeth.

O ran ffynonellau gwybodaeth, dywed 51% eu bod nhw’n cael eu gwybodaeth wleidyddol gan aelodau’r teulu, gyda 41% yn nodi’r teledu fel eu prif ffynhonnell, 24% yn nodi YouTube, a 20% yn dweud TikTok.

Un arall o nodau’r ymgyrch yw cyrraedd cymunedau ymylol, gan roi llais i fwy o bobol ifanc.

Barn pobol ifanc

Mae Qahira yn 16 oed ac yn Llysgennad iWill o Gaerdydd.

“Mae’n bwysig bod y materion sy’n bwysig i ni yn cael eu clywed a’u trafod gan Aelodau Seneddol,” meddai. “Ar hyn o bryd, nid yw’n teimlo felly.

“Ni yw cenhedlaeth y dyfodol a allai redeg y wlad ryw ddydd, mae penderfyniadau aelodau seneddol a’r hyn maen nhw’n ei ddweud yn mynd i gael effaith ar genedlaethau’r dyfodol.”

Daw Chelsea, sy’n 17 oed, o Gastell-nedd ac mae hi’n Llysgennad Platfform4YP.

“Erbyn i mi fod yn 18, bydd y gwleidyddion o’r etholiad hwn yn dal i fod yn gwneud penderfyniadau am flynyddoedd hyd nes y gallaf bleidleisio eto,” meddai. “Nid yw hyn yn teimlo’n deg.

“Mae barn y cenedlaethau iau a hŷn yn wahanol iawn, ac weithiau mae’n teimlo fel nad yw lleisiau pobol ifanc yn cael eu clywed a’u blaenoriaethu.

“Rwy’ am i wleidyddion ddeall y materion sydd o bwys i ni fel iechyd meddwl a newid yn yr hinsawdd ynghyd â materion LHDTC+ a hiliaeth.

“Rwy’n teimlo’n rhwystredig nad yw’r gwleidyddion yn blaenoriaethu’r materion hyn.”

Llysgennad Platfform4YP yw Holly, sy’n bymtheg oed ac yn dod o Gaerffili.

“Rwy’n adnabod llawer o bobol ifanc nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth, ac rwy’n credu mai un o’r prif resymau am hyn yw eu bod yn credu nad yw gwleidyddiaeth yn berthnasol iddyn nhw, ac na fydd neb yn gwrando ar eu syniadau.

“Gwyddom o’r ymchwil a gynhaliwyd gan ‘Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais.’ mai dim ond 10% o bobol ifanc sy’n meddwl bod gwleidyddion yn gwrando ar leisiau ifanc mewn gwirionedd.

“Mae gennym ni leisiau ac rydy ni am gael eu defnyddio.”

Ymateb sefydliadau

Dywed Jayne Tanti ar ran Clybiau Bechgyn a Merched Cymru eu bod nhw wrth eu boddau’n cymryd rhan yn y prosiect.

“Mae’r bobol ifanc rydym yn gweithio gyda nhw yn awyddus i gyfrannu at brosesau gwneud penderfyniadau, ond yn aml yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu clywed gan wleidyddion,” meddai.

“Rydym yn obeithiol y bydd y prosiect hwn yn chwyldroi cynrychiolaeth pobol ifanc yng ngwleidyddiaeth Cymru, gan roi llwyfan iddyn nhw gael eu clywed.”

Mae’n “amser tyngedfennol i leisiau plant gael eu clywed”, yn ôl Meg Briody, Pennaeth Cyfranogiad Plant a Phobol Ifanc Achub y Plant y Deyrnas Unedig.

“Mae canlyniadau yr ymchwil yn datgelu sut mae pobol ifanc ar hyn o bryd yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu gan wleidyddion,” meddai.

“Mae’r arolwg barn yn dangos i ni’r angen am brosiectau llythrennedd gwleidyddol fel ‘Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais’ i gynnwys pobol ifanc mewn democratiaeth a’n prosesau gwleidyddol.

“Rydym wedi ymuno â rhai o sefydliadau ieuenctid mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig i greu cyfle i lwyfannu safbwyntiau pobol ifanc, yn enwedig gan bobol ifanc sydd wedi teimlo nad ydyn nhw’n cael eu cynrychioli mewn mannau gwleidyddol.

“Edrychwn ymlaen at y canlyniadau ddydd Gwener, Mehefin 28.”