Bydd Ysgol Sul newydd yn dechrau yn un o drefi Meirionnydd dros y penwythnos.

Ers sefydlu clwb ieuenctid Cristnogol ym Mlaenau Ffestiniog tua dwy flynedd yn ôl, mae Craig Blaenau wedi bod yn denu tua 60 o blant a phobol ifanc i’r clwb rygbi’n wythnosol.

Y cam naturiol nesaf oedd dechrau Ysgol Sul yng Nghanolfan Hamdden Blaenau Ffestiniog, ynghyd â dechrau cyfarfodydd Capel Craig yno, medd Joseff Edwards, un o arweinwyr y sefydliad.

Ar hyn o bryd, does yna’r un ysgol Sul arall yn y dref.

Bydd sesiwn gynta’r Ysgol Sul i blant oed cynradd yn dechrau fore Sul, Mehefin 16 am 10 o’r gloch, gyda chyfarfod Capel Craig am 3yp.

‘Cyfeillgarwch efo Duw a’n gilydd’

Cafodd gweithgareddau Craig Blaenau, sy’n cynnwys Clwb CIC i blant rhwng oedran blwyddyn 4 a blwyddyn 11 a Craig Bach i rieni a babanod, eu rhedeg yn wirfoddol am y ddwy flynedd gyntaf.

Bellach, mae Joseff Edwards, sy’n dod o’r Bala yn wreiddiol ond yn byw ym Mlaenau Ffestiniog ers dros ddwy flynedd, a’i wraig Lydia yn cael eu cyflogi gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru i gynnal Craig Blaenau.

Treuliodd o gyfnod yn gweithio fel swyddog rygbi yn ysgol uwchradd y dref, gan ddod i adnabod pobol ifanc y fro ac o sylwi bod cyn lleied o weithgareddau i ieuenctid y fro, penderfynodd sefydlu CIC – clwb wythnosol sy’n cynnig gweithgareddau o gemau i bêl-droed i nosweithiau ffilmiau.

“Mae’n rhaid i’r eglwys deimlo bod o’n dod o’r lle, dyna pam rydyn ni wedi galw’r capel yn Craig Blaenau achos mae Blaenau’n dod o’r graig… mae o’n bodoli achos o hynna,” eglura Joseff Edwards, sy’n 29 oed, wrth golwg360.

“Roeddwn i eisiau i’r capel fod yn dod o Flaenau, i Flaenau Ffestiniog a’r fro.

“Mae hynna’n golygu byw yma gyntaf, gweld a oes yna lefydd fedrwn ni wasanaethu, a oes yna ffyrdd fedrwn ni chwarae’n rhan ni’n gweithio er mwyn ffyniant y dref.

“Daeth yna 60 o bobol ifanc i’r sesiwn CIC cyntaf, a go iawn dydy’r momentwm heb stopio.”

O hynny, mae Craig Bach wedi’i sefydlu yn y Ganolfan Hamdden, sy’n rhoi cyfle i rieni a phlant bach ddod at ei gilydd.

“Beth sy’n lyfli efo Craig Bach ydy, ti’n gweld mamau sydd efo babis bach, bach, bach – yn amlwg dydy’r grŵp yma ddim i’r babis, mae o i’r rhieni achos mae yna gymuned yma, ffordd o gysylltu efo pobol.

“Dyna ydy’r eglwys wedyn; mae o gymaint mwy o am gymuned a chyfeillgarwch – yn amlwg efo Duw, ond efo’n gilydd hefyd.

“Dw i ddim yn meddwl fysa chdi’n gweld hyn mewn cymunedau eraill… lle mae pobol mor ddiolchgar.”

‘Cam naturiol nesaf’

Ar adeg pan fo’n fwy arferol gweld capeli ac Ysgolion Sul yn cau, mae cam Joseff Edwards a Craig Blaenau i ddechrau Ysgol Sul a chapel fel petai’n mynd yn groes i’r graen.

“[Hyn] oedd y cam nesaf naturiol, organig. Dyna ydyn ni eisiau gallu dweud, bod y capel yma o Flaenau ei hun,” meddai.

Bob prynhawn Llun, mae Joseff Edwards a Siôn Morris, sy’n gweithio yng Ngholeg y Bala ond yn byw ym Mlaenau Ffestiniog hefyd, yn cynnal CIC Alffa gyda disgyblion Ysgol y Moelwyn ar ôl i’r diwrnod ysgol ddod i ben.

Ynghyd â chynnig bwyd, diod a gemau, maen nhw’n mynd drwy gwrs Alffa Ieuenctid, cwrs fideo sy’n cyflwyno pwyntiau sylfaenol Cristnogaeth a chwestiynau mawr bywyd.

“Roedden ni eisiau rhoi’r gofod yna iddyn nhw archwilio ffydd, gofyn y cwestiynau mawr yna a chael lle i drafod, ac rydyn ni wedi sylwi drwy wneud hynna yn Blaenau ein bod ni’n dechrau efo llechan lan.

“Prin iawn mae’r bobol ifanc wedi cael unrhyw brofiad capel.

“Mae o wedi bod yn siwrne hyfryd achos ti’n dod ato fo efo nhw a does ganddyn nhw ddim gwybodaeth cynt yn dod mewn iddo fo.

“Mae yna rywbeth lyfli yn y fo achos ti’n gweld bod yna syched ymhlith bobol ifanc i ofyn y cwestiynau mawr yma a meddwl be dw i’n gredu am fy hun.

“Roedd Ysgol Sul yn rhywbeth naturiol o fan yna, achos ti’n gweld bod yna ffordd o gyflwyno straeon y Beibl unwaith eto i genhedlaeth newydd mewn ffordd ffres.”

‘Y capel yn rhan o fywyd bob dydd’

Roedd cynnal y Capel a’r Ysgol Sul yn y Ganolfan Hamdden, fel gyda’r CIC yn y clwb rygbi, yn rywbeth bwriadol hefyd.

“Mae gofodau’r gymuned wedi bod yn llefydd braf i ddechrau achos ti’n teimlo bod pobol ddim on edge, hwyrach bod rhai pobol wedi cael profiad negyddol o’r capel, rhai pobol ddim yn bothered am y capel,” meddai Joseff Edwards.

“Mae yn wahoddiad i deuluoedd, pawb i’r prynhawn i Gapel Craig, ac i adeiladu’r gymuned yna.

“Bod pobol yn teimlo bod yna le iddyn nhw, beth bynnag ydy’u stori nhw, eu cred nhw, lle bynnag maen nhw arni ar hyn o bryd… eu bod nhw’n medru dod, perthyn, medru mwynhau perthynas a chyfeillgarwch efo pobol.”

Ychwanega ei fod yn awyddus i’r eglwys chwarae ei rhan mewn adferiad cymdeithasol a chymunedol, yn yr un modd â mentrau cymunedol fel y rhai sy’n dod dan adain Cwmni Bro Ffestiniog.

“Dw i’n caru gwaith adfer y mentrau cymunedol, a dw i’n meddwl y dylai’r eglwys fod yn rhan o hynna i gyd.

“Mae yna ddeheuad i gau’r bwlch yna, a bod pobol yn gweld fod y capel ddim yn gymdeithas sy’n gweithredu tu allan i fywyd bob dydd – mae o i fod yng nghanol hwnna i gyd.”