Wrth glustfeinio sgwrs (gan gyfaddef nad da yw hynny) rhwng fy mab a’i ffrindiau wrth iddyn nhw drefnu noson allan – noson “ma’s ma’s” ydoedd i fod – sylweddolais fod fy mab yn ddwyieithog! Mae’r Gymraeg mae e’n siarad gyda’i ffrindiau yn gwbl wahanol i’r Gymraeg mae e’n siarad gyda fi. Mae’r eirfa ac, i raddau beth bynnag, yr acen hyd yn oed yn wahanol! Am hyn o ddwyieithrwydd yr hoffwn hel meddyliau heddiw.

Onid yw’r iaith mae meddyg yn siarad yng nghwmni meddygon eraill yn wahanol i’r iaith a ddefnyddia wrth siarad â’r claf? Wrth siarad â’r claf, bydd yr iaith – gobeithio, o leiaf – yn llai manwl feddygol/gwyddonol, ac o’r herwydd yn ddealladwy i’r claf.

Mae gan weinidog hefyd ddwy iaith. Bydd yn siarad â phobol y ffydd gan ddefnyddio iaith wahanol i’r iaith a ddefnyddia wrth siarad â phobol nad ydyn nhw’n arddel y ffydd honno. Mewn Oedfa, fel credadun, dw i’n siarad â chredinwyr. Mewn colofn, mae’n rhaid i mi ddefnyddio iaith ychydig yn wahanol, oherwydd wn i ddim yn iawn â phwy dw i’n ‘siarad’.

Er sicrhau iechyd cymdeithas ddemocrataidd, mae’n rhaid i bob grŵp sy’n perthyn i’r gymdeithas honno siarad iaith ddiwylliannol sydd yn ddealladwy i bawb arall. Nid oes hawl gennyf fel Cristion i ddweud wrth bob lliw, llun a llewyrch o Gymro fod yn rhaid iddyn nhw wneud hyn a’r llall gan mai dyma ddywed y Beibl. Nid oes hawl gan Fwslim o Gymro ddweud wrth y gweddill ohonom, “Gwnewch hyn!” gan mai dyma ddywed y Qur’an. A hynny nid oherwydd ein bod ni’n byw mewn cymdeithas seciwlar ond oherwydd, yn syml, nad yw’r ffordd yma o gyfathrebu’n ddealladwy i holl bobol Cymru. Mae gen i’r hawl, wrth gwrs, i geisio argyhoeddi pobol o’r gwirionedd sydd i’m ffordd i o feddwl, ond mae’n rhaid i mi hefyd dderbyn efallai na fyddaf yn llwyddo i wneud hynny.

Beth am newid y darlun, er mwyn ceisio cadarnhau’r neges? Mae perthyn i’r Gymru gymhleth, gyfoes, aml-ethnig, aml-grefydd, aml-ddiwyliant hon yn debyg iawn i ganlyn pêl-droed. Fel Cymro Cymraeg o Gristion, dw i’n cefnogi fy nhîm i, ond dw i hefyd yn deall a chydnabod fod rheolau’r gêm yn fwy pwysig na fy nhîm i oherwydd, heb reolau, nid oes gêm. A heb y gêm, pa ddiben sydd i unrhyw dîm?

Mae bod yn Gymro heddiw, os ydym yn Gymry Cymraeg, neu’n Gymry â’n gwreiddiau yn Bangladesh, Pacistan, India, Gwlad Pwyl neu le bynnag, yn golygu bod gennym, un ac oll, ein gwahanol dimoedd, ac rydym yn naturiol ddigon yn deyrngar i’n tîm ni.

Ond mae’n rhaid hefyd wrth deyrngarwch cyffredinol i reolau’r gêm. Dyma (am wn i, o leiaf) yw hunaniaeth genedlaethol iach mewn diwylliant amryliw: sawl tîm, ond un set o reolau.