Brynhawn Llun (Medi 2), ymddangosodd David Lammy, Gweinidog Tramor y Deyrnas Unedig, gerbron aelodau Tŷ’r Cyffredin i gyhoeddi penderfyniad y Llywodraeth ynglŷn â rhoi trwyddedau i gwmnïau Prydeinig i allforio arfau, neu dechnoleg sy’n cael ei ddefnyddio mewn arfau, i Israel.

Mae’n deg dweud fod yr hyn a gafwyd yn y datganiad (sef atal tua 10% o’r contractau) wedi plesio neb ac wedi cythruddo llawer.  Roedd canran sylweddol o Aeldodau Seneddol Llafur ac aelodau cyffredin y blaid wedi gobeithio y byddai’n mynd ymhellach ac yn cyhoeddi gwaharddiad cyffredinol ar werthu arfau i Israel (fel y gwnaeth Margaret Thatcher ’nôl yn 1982). Roedd Israel a’i chefnogwyr o’r tu arall, yn amlwg, yn anhapus gan fod y datganiad, er gwaethaf pa mor ddof yr ydoedd, yn un methiant cysylltiadau cyhoeddus arall. Mae’n ddigon hysbys fod Israel yn poeni bellach ei bod yn colli’r frwydr bropaganda ymysg pobol gyffredin ar draws y byd, ac mae’n sensitif iawn i unrhyw awgrym o feirniadaeth.

Ond (a dyma yn sicr oedd bwriad y datganiad), efallai fod datganiad David Lammy wedi llwyddo yn rhannol i achub croen y Llywodraeth, dros dro o leiaf.  O edrych ar gynnwys testun ei ddatganiad, oedd yn amlwg wedi’i lunio’n ofalus, gwelwn mai ei brif bwrpas (yn ogystal â cheisio osgoi beirniadaeth yng nghynhadledd Hydref y Blaid Lafur yn Lerpwl y mis yma) oedd ei amddiffyn o ei hun ac aelodau eraill y Llywodraeth rhag cyhuddiadau posib yn y dyfodol o ganiatáu a galluogi troseddau rhyfel gan Lywodraeth Israel. (Ar hyn o bryd, mae her gyfreithiol yn cael ei chyflwyno gan Global Justice Now yn erbyn y Llywodraeth ar fater allforio arfau i Israel). Dyna pam y mae’n dadlau yn ei ddatganiad nad yw Llywodraeth Prydain yn Llys Barn Rhyngwladol, a’i bod yn mynd i osgoi gwneud penderfyniad ynglŷn â natur rhai o’r cyhuddiadau difrifol sydd wedi’u gwneud yn erbyn Israel hyd nes y bydd cyrff cyfreithiol megis yr ICC a’r ICJ yn cyhoeddi eu casgliadau terfynol ar y cyhuddiadau hynny. Petai Llywodraeth Prydain yn cael ei dwyn i gyfraith yn y dyfodol, amddiffyniad tebygol y Llywodraeth fyddai rhywbeth fel, “Doedden ni ddim yn gwybod i sicrwydd fod hil laddiad yn digwydd yn Gaza tan i’r casgliadau cyfreithiol terfynol gael eu cyhoeddi – ond o leiaf mi wnaethon ni atal rhai mathau o arfau rhag cael eu hallforio i Israel”.

Yn ystod ei araith, mae’n datgan ei fod o wedi bod yn ‘liberal, progressive Zionist’ erioed.  Mae’r ffaith ei fod yn teimlo’r rheidrwydd i ragflaenu’r term ‘Zionist’ gyda’r ansoddeiriau ‘liberal, progressive’ yn awgrymu, wrth gwrs, ei fod yn sylweddoli fod y term ‘Zionist’ yn medru cael ei weld fel rhywbeth negyddol. Efallai hefyd ei fod am bwysleisio nad yw’n credu fod pob ‘Zionist’ o’r un anian, a bod y fath beth ag ‘illiberal, reactionary Zionist’ yn bodoli (pobol fel Ben Gvir, Smotrich a Netanyahu ei hun, o bosib).  Er gwaethaf y cyfaddefiad hwn a’r disgrifiad roddodd ohono’i hun fel cyfaill i Israel, roedd ei ddatganiad yn cynnwys nifer o sylwadau y gellid eu defnyddio yn erbyn y wlad gan ei bod yn tynnu sylw at agweddau negyddol ynglŷn â’i harweinyddiaeth.

Mae o’n cyfeirio at derfysgaeth yr ymsefydlwyr Israelaidd ar y Lan Orllewinol sy’n ymosod ar bentrefwyr Palesteinaidd ac yn dwyn eu tir a’u cartrefi, yr adroddiadau ‘credadwy’ o’r defnydd eang o arteithio yng ngharchardai Israel, a’r ffaith fod Israel wedi rhwystro’r Groes Goch ryngwladol rhag ymweld â charchardai yno. Mae o hefyd yn cyfeirio at y ffaith nad yw Israel wedi gwneud digon i sicrhau bod bwyd, diod ac angenrheidiau sylfaenol yn cyrraedd y Palestiniaid yn Gaza. Byddech chi’n meddwl y byddai’r camweddau diymwad hyn ynddyn nhw eu hunain yn ddigon i gyfiawnhau gwaharddiad cyffredinol ar werthu arfau i Israel. Ond na. A phaham hynny? Oherwydd, yng ngeiriau Lammy ei hun, “there is no equivalence between Hamas terrorists and Israel’s democratic government. (Mae o fel petai wedi anghofio yn fan hyn fod Hamas, fel mudiad gwleidyddol, hefyd wedi’i ethol yn ddemocrataidd i lywodraethu Gaza gan drigolion y llain honno o dir.)

Er bod Lammy yn ceisio dadlau yn ei ddatganiad, er gwaethaf yr hyn y mae Israel yn ei wneud, fod Hamas yn waeth o lawer, gellid, wrth gwrs, troi ei eiriau ar eu pen. Na, does dim cyfatebiaeth rhwng gweithredoedd Hamas ac Israel oherwydd, yn ystadegol, mae Israel wedi lladd nifer anhraethol fwy o unigolion diniwed, gan gynnwys gwragedd a phlant, nag a wnaeth Hamas erioed. Mae’n ddigon hysbys fod Hamas wedi lladd oddeutu 1,200 o unigolion yn ystod ei gyrch ar Hydref 7, gweithred erchyll gafodd ei chondemnio yn eang ar y pryd a dw i ddim am amddiffyn y digwyddiad hwnnw.   Ers hynny, fodd bynnag, mae Israel wedi lladd o leiaf 40,000 o bobol (ffigwr ceidwadol iawn o ystyried fod miloedd yn dal ar goll o dan y rwbel a miloedd wedi marw o sgil effiethiau’r rhyfela megis heintiau a newyn – amcangyfrifir gan arbenigwyr meddygol y gallai’r ffigwr fod cyn uched â 190,000). Pe ychwanegid yr holl niferoedd o Balestiniaid gafodd eu lladd gan Israel ers 1948 at y ffigwr, byddai’r gwahaniaeth yn y gymhareb farwolaethau rhwng Israel a Hamas yn anhraethol fwy.

Yn ystod cyrch Hydref 7, cymerodd Hamas gannoedd o unigolion yn wystlon. Cafodd rhai eu cyfnewid am garcharorion Palesteinaidd. Ysywaeth, mae rhai gwystlon wedi marw ers y cyfnewid gwystlon cyntaf hwnnw, gan sbarduno protestiadau anferth gan Israeliaid yn erbyn Netanyahu. Mae’r protestwyr yn ei gyhuddo o fradychu’r gwystlon a rhwystro pob ymgais i gael cytundeb heddwch er ei fudd gwleidyddol personol. O safbwynt cadw gwystlon, fodd bynnag, roedd y niferoedd gafodd eu cipio’n wreiddiol gan Hamas ond fychan iawn o’u cymharu â’r gwystlon Palesteinaidd (neu garcharorion fel mae Israel yn eu galw) sydd, ers blynyddoedd, wedi’u cipio a’u carcharu (a’u harteithio) heb unrhyw broses gyfreithiol ddilys yn rhai o wersylloedd cadw Israel.

Pe ychwanegid at hynny y ffaith fod y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol wedi cytuno ar sail y dystiolaeth gafodd ei chyflwyno iddi gan Dde Affrica y dylid ymchwilio i’r cyhuddiad fod Israel yn cyflawni hil-laddiad, byddai hynny’n gosod Israel mewn categori cwbl unigryw gan nad yw Hamas wedi’i gyhuddo o hil-laddiad.

Mae arweinyddiaeth Hamas ac arweinyddiaeth Israel, ill dau, fodd bynnag, wedi’u cyhuddo o droseddau rhyfel gan y Llys Troseddau Rhyngwladol, ac mae’r erlynydd Karim Khan wedi galw am gyhoeddi gwarant i arestio, nid yn unig arweinwyr Hamas, ond Benjamin Netanyahu a Yoav Gallant hefyd.

Dw i’n meddwl mai dyma’r mater creiddiol y dylid talu sylw iddo.  Os yw’r Llys Troseddau Rhyngwladol o’r farn fod Hamas wedi cyflawni troseddau rhyfel, yna, yn sicr, ddylai llywodraeth Prydain ddim ystyried rhoi arfau i’r mudiad. Mae hynny’n ddealladwy ac yn briodol. Ond gan fod y llys o’r farn hefyd fod Israel wedi cyflawni troseddau rhyfel, ddylai Llywodraeth Prydain ddim trosglwyddo arfau iddi hithau chwaith. Trwy wneud hynny, gallai ei gadael ei hun yn agored i gyhuddiadau cwbl ddilys a haeddiannol yn y dyfodol ei bod wedi galluogi Israel i gyflawni troseddau dynol difrifol a hil-laddiad ym Mhalesteina.