Mae cyd-gynhyrchiad newydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Music Theatr Wales a Music@Aber yn ymateb o’r newydd i bryddest enwog Prosser Rhys, ‘Atgof’, enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ganrif yn ôl.

Comisiwn newydd sbon yw Bwystfilod Aflan, sy’n herio arferion cymdeithasol ac yn tynnu sylw at y gwrthdaro rhwng traddodiad a’r angen am newid, trwy lens opera, dawns a ffilm gydag offerynwyr Sinfonia Cymru.

Cafodd ei chyfansoddi gan Conor Mitchell, ac yn dilyn ei gynhyrchiad hynod lwyddiannus Abomination: A DUP Opera, mae wedi ymgeisio eto i gyflwyno cynhyrchiad operatig effeithiol.

Bydd y tenor Elgan Llŷr Thomas yn cyfuno monolog operatig â darn myfyriol gan y dawnsiwr a’r actor Eddie Ladd, a chaiff y cyfan ei gyfarwyddo gan Jac Ifan Moore a’i ddylunio gan Elin Steele.

Yn y sioe, bydd camdriniaeth a sarhad Prosser Rhys yn cael ei archwilio ar ôl iddo ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol 1924 ym Mhont-y-pŵl.

Roedd darluniau Edward Prosser Rhys o ryw, chwant a rhamant rhwng dau ddyn ifanc yn adlewyrchiad beiddgar o’i realiti, gan herio normau cymdeithasol ei gyfnod – cyfnod pan oedd bod yn hoyw yn dal i fod yn anghyfreithlon, ac a fyddai’n erbyn y gyfraith am 40 mlynedd arall.

Dwy ran

Mae’r cynhyrchiad wedi’i rannu’n ddwy ran.

Y rhan gyntaf yw myfyrdod symudiad a llais ar ‘Atgof’ gan Prosser Rhys, wedi’i greu gan Eddie Ladd, Sion Orgon a Jac Ifan Moore.

Yr ail ran yw manodrama opera wedi’i chyfansoddi a’i chreu gan Conor Mitchell a Jac Ifan Moore.

Mae Bwystfilod Aflan hefyd yn nodi dechrau partneriaeth newydd Music Theatre Wales gyda Sinfonia Cymru, sy’n gobeithio rhoi budd i gynulleidfaoedd ledled Cymru a chefnogi datblygiad perfformio cerddoriaeth.

Dyddiadau’r daith

Stiwdio, Theatr y Sherman, Caerdydd, dydd Mercher, Hydref 9, 7.30yh – Archebwch docynnau

Theatr Byd Bach, Aberteifi, dydd Gwener, Hydref 11, 7.30yh – Archebwch docynnau

Theatr Y Werin, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, dydd Mercher, Hydref 16, 7.30yh – Archebwch docynnau

Performance Space, Tŷ Pawb, Wrecsam, dydd Iau, Hydref 17, 7.30yh – Archebwch docynnau