Mae prosiect newydd yn gobeithio “chwalu rhwystrau” i siaradwyr Cymraeg ifainc sy’n dilyn gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth.

Heddiw (dydd Mawrth, Awst 6), mae Amlen a Beacons Cymru wedi cyhoeddi’r adroddiad cyntaf o’i fath, sy’n edrych ar y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg drwy eiriau a barn pobol ifanc.

Mae’r data hwn yn dystiolaeth o farn pobol ifanc ledled Cymru ynghylch y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg, a’r hyn maen nhw’n dymuno’i weld ar gyfer ei ddyfodol.

Prosiect ymchwil a datblygu yw Amlen, a’i nod yw chwalu rhwystrau i siaradwyr Cymraeg ifanc 18-25 oed yn y diwydiant.

Dim digon o ddarpariaeth yn y gogledd ac ardaloedd gwledig

Ar ôl casglu data mewn pedair gŵyl, cynnal tri grŵp ffocws, llunio arolwg, a chynnal cyfweliadau fideo anffurfiol, roedd modd i’r tîm gasglu ystod o ddata ysgrifenedig a digidol.

Cafodd nifer o ystadegau pwysig eu casglu, gan gynnwys agwedd pobol tuag at gerddoriaeth Gymraeg, darpariaeth ddaearyddol, a hygyrchedd trwy drafnidiaeth i ddigwyddiadau yn ein trefi a’n cymunedau gwledig.

Roedd yr ymatebion hefyd yn galw am weld mwy o amrywiaeth mewn gwyliau a gigs, gan gynnwys genres cerddoriaeth, a mwy o gynrychiolaeth gan fenywod, pobol anneuaidd ac artistiaid mwyafrif byd-eang.

Lleisiodd y bobol ifanc eu barn mewn nifer o ddigwyddiadau cerddorol Gymraeg, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl Sŵn a Tafwyl.

Yn sgil hyn oll, y gobaith yn y pen draw yw cael mwy o bobol yn dysgu’r iaith neu’n gwrando ar fwy o gerddoriaeth Gymraeg yn gyffredinol.

Pan ofynnwyd y cwestiwn, ‘Beth hoffet ti weld yn nyfodol y diwydiant cerddoriaeth iaith Gymraeg?’, yr ateb gan 82% oedd ‘mwy!’.

Ymhlith yr atebion eraill roedd mwy o amrywiaeth gigs – yn enwedig yn y gogledd ac ardaloedd gwledig – caneuon a lein-yps dwyieithog, cyfleoedd gyrfaoedd, a gwell ymwybyddiaeth am y cyfleoedd hynny.

Does dim digon yn cael ei ddarparu ar gyfer y gogledd a’r canolbarth, yn ôl yr ymatebion, ac mae hynny i’w weld drwy’r data gafodd ei gasglu ledled Cymru.

Mae dymuniad hefyd i weld mwy o drafnidiaeth, cyllid a gigs i bobol ifanc o gymunedau gwledig sydd am gyfrannu at y diwydiant.

‘Teimlo cyfrifoldeb’

Yn ôl Elan Evans, Rheolwr Prosiect yn Beacons Cymru, mae’r adroddiad yn un “pwerus” sy’n nodi bod galw am “well darpariaeth o gerddoriaeth Gymraeg” yng nghymunedau gwledig Cymru.

“Gyda thoriadau i’r celfyddydau yn rhemp yn ein gwlad ar hyn o bryd, mae gofyn am well gyfleoedd i bobol ifanc gael mynediad at ein diwydiant cerddorol yn bwysicach nag erioed,” meddai.

“Gan feddwl am yr holl fanteision mae pobol ifanc yn ei fwynhau o brofi cerddoriaeth byw, gan gynnwys ymdeimlad o berthyn, gwell iechyd meddwl a hefyd agosatrwydd at yr iaith, mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n gwrando ar ein pobol ifanc nawr ac yn darparu’r cyfleoedd amhrisiadwy yma iddyn nhw.”

Fe weithiodd Glyn Rhys-James, aelod o’r band Mellt, fel swyddog ar y prosiect ac mae’n hapus iawn bod yr adroddiad wedi’i ryddhau i’r byd.

“Ar ôl sawl mis yn gweithio yn ddiflino ar y prosiect yma gyda Lewys Meredydd, Keziah O’Hare ac Anest Williams, mae’n fraint cael rhannu barn bwysig ein pobol ifanc ar y diwydiant gerddoriaeth Gymraeg,” meddai.

“Rydym yn teimlo cyfrifoldeb nawr i barhau ar y gwaith pwysig yma trwy ein gwaith yn Amlen, ac yn edrych ymlaen at rannu ein gwaith gyda chi.”