Sioe gerddorol yn dathlu hanes neuadd Criccieth oedd Cofio’r Cant. Cafodd ei sgwennu gan Twm Morys a Gwyneth Glyn, a’i hatgyfodi eleni i’w llwyfannu yn y neuadd, gan ddod â gwahanol garfanau o’r gymdeithas at ei gilydd i berfformio – yn blant ysgol, pobol hŷn, siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg a dysgwyr.
Gwyliwch y fideo i gael syniad o’r effaith gafodd y sioe, a dderbyniodd gymorth gan Grymuso Gwynedd, ar y gymuned leol.
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol trwy raglen Grymuso Gwynedd, sef un o raglenni Menter Môn sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA). Mae hefyd yn un o brosiectau Ymbweru Bro gan gwmni Golwg, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri.