Sefydlu menter i wella tlodi tanwydd yn Waunfawr a Dyffryn Gwyrfai

Gwyrfai Gwyrdd yn cyfuno asedau naturiol a’r gymuned leol er mwyn gwneud lles yn lleol

Gyda thlodi tanwydd ar gynnydd, mae menter newydd wedi’i sefydlu yn Nyffryn Gwyrfai i ddod â’r gymuned ynghyd i geisio datrys y sefyllfa.

Gwyrfai Gwyrdd ydy’r fenter sydd wedi derbyn cymorth Grymuso Gwynedd i geisio dod o hyd i’r atebion.

Gwyliwch y fideo i gael syniad o sut mae’r fenter am gyfuno asedau naturiol arbennig yr ardal â’r asedau dynol yn y gymuned er mwyn gwneud lles yn lleol.

 

 

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol trwy raglen Grymuso Gwynedd, sef un o raglenni Menter Môn sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).