Mae llu o fentrau, grwpiau a busnesau wedi bod yn gwneud gwaith gwych yn ddiweddar, gyda chefnogaeth rhai o raglenni Menter Môn.
A dros yr wythnos nesaf, mae cyfle i bawb sydd wedi cymryd rhan ym mhrosiectau Hwb Menter, Balchder Bro a Grymuso Gwynedd enwebu eu hunain i dderbyn gwobr. Mae modd i’r cyhoedd bleidleisio hefyd, am eu hoff esiamplau o ysbryd entrepreneuraidd, am y mentrau cymdeithasol sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’w bro, am arloeswyr ac arwyr yn eu cymunedau.
Yr oll sydd angen ei wneud ydy llenwi’r ffurflen fer yma erbyn 20 Medi.
Bydd y seremoni wobrwyo’n cael ei chynnal yn Galeri Caernarfon ar nos Wener 11 Hydref 2024, pan fydd enillwyr y categorïau canlynol yn cael eu datgelu:
Balchder Bro
- Gwobr Arwr Cymunedol
- Gwobr Hwb Cymunedol
- Gwobr Digwyddiad Cymunedol Y Flwyddyn
- Gwobr Mudiad Cymunedol
Grymuso Gwynedd
- Gwobr Menter Newydd Y Flwyddyn
- Gwobr Prosiect Y Flwyddyn
- Gwobr Arweinydd Grymusol Y Flwyddyn
Hwb Menter
- Gwobr Busnes Newydd y Flwyddyn (Gwynedd)
- Gwobr Busnes Newydd y Flwyddyn (Ynys Môn)
- Gwobr Rhyfelwr Eco (Gwynedd a Môn)
- Gwobr Arloeswr Arbennig (Gwynedd a Môn)
Mae’r prosiectau hyn yn cael eu cyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, trwy Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn. Maent hefyd yn cael eu cyllido’n rhannol gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS), is-gwmni sy’n eiddo llwyr i’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).