Gofalwn.cymru

Gwnewch wahaniaeth cadarnhaol i deuluoedd yng Nghymru gyda gwaith cymdeithasol

Mae gan Gofalwn Cymru amrywiaeth o swyddi gwag, rhaglenni hyfforddi a chymorth ar gael i’ch helpu i ddilyn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.

Gofal cymdeithasol yw un o’r proffesiynau mwyaf gwerth chweil sy’n cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar fywydau pobl.

O’r rhai sy’n cefnogi pobl sy’n gadael yr ysbyty, camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, neu blant ag anableddau, mae yna lawer o fathau o weithwyr cymdeithasol – ond er gwaethaf eu rolau gwahanol, maen nhw i gyd yn gweithio i helpu teuluoedd trwy feithrin perthnasoedd, eu cefnogi, a gwella ansawdd eu bywydau.

Fodd bynnag, mae angen mawr am fwy o weithwyr proffesiynol yng Nghymru i ateb y galw cynyddol am wasanaethau gofal.

Dyna pam mae Gofalwn Cymru yn ceisio helpu unigolion a gweithwyr proffesiynol i gymryd eu cam nesaf yn eu gyrfa mewn gofal – p’un a oes gennych gefndir mewn gofal yn barod, yn newydd gymhwyso ac yn chwilio am swydd, neu’n edrych i newid gyrfa yn gyfan gwbl.

Ond sut mae cychwyn arni?

Mae yna nifer o ffyrdd i mewn i ofal cymdeithasol gan gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli, lleoliadau gwaith a phrentisiaethau.

Dyma Ruby

 

Yn ddiweddar, cwblhaodd Ruby Brentisiaeth Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr. Cymhwyster sy’n anelu at ddatblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, yr ymddygiad a’r sgiliau sy’n sail i rôl ymarferwr gwasanaethau cymdeithasol.

Mae Ruby, Cynghorydd Personol ymroddedig yn Sir Gaerfyrddin, yn rhannu ei thaith ysbrydoledig o gefnogi plant ac oedolion ifanc sydd wedi cael dechrau anodd mewn bywyd gan eu helpu i ymdopi â heriau a pharatoi ar gyfer bod yn oedolion.

Gyda chefndir mewn seicoleg a phrofiad mewn cartrefi preswyl plant, mae hi bellach yn gweithio gydag unigolion 16-25 oed, gan ddarparu sgiliau bywyd hanfodol a chymorth wedi’u teilwra i anghenion pob person.

Mae Ruby yn siarad am y cymhwyster ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol a’i nod yw datblygu ei gyrfa mewn gwaith cymdeithasol ac annog eraill i ystyried gyrfa mewn gwaith cymdeithasol a chael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.

Buom yn dal i fyny gyda Ruby yn ddiweddar ers iddi gwblhau’r Brentisiaeth Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae’n gobeithio parhau â’i hastudiaethau a dilyn gradd mewn gwaith cymdeithasol i ddod yn weithiwr cymdeithasol yn y dyfodol.

“Ewch amdani os ydych chi am gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl”

Mae Ruby yn annog eraill i ystyried llwybr tebyg a chael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.

Y Brentisiaeth Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Roedd Ruby yn rhan o’r garfan gyntaf ac roedd yn un o naw dysgwr a gyflawnodd y cymhwyster lefel 4 hwn. Caiff dysgwyr y cyfle i ddefnyddio’r cwrs fel platfform i symud ymlaen i ail flwyddyn y radd Gwaith Cymdeithasol gyda’r Brifysgol Agored. Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr newydd gofrestru ei drydedd garfan gydag 20 o ddysgwyr yn dechrau ar eu taith ddysgu.

Mae’r recriwtio’n cael ei wneud trwy awdurdodau lleol gydag ymgeiswyr yn cyflwyno datganiad personol yn nodi sut a pham mae’r cymhwyster hwn yn addas iddyn nhw.

Mae cymwysterau prentisiaeth yn gymysgedd o ddysgu a phrofiad yn y gwaith, a sgiliau cyfathrebu a rhifedd. Mae prentisiaeth fel arfer yn cymryd rhwng 18 mis a dwy flynedd i’w chwblhau.

Mae prentisiaethau yn ddechrau gwych wrth adeiladu eich gyrfa mewn gofal.

Dechreuwch eich gyrfa mewn gofal

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth? Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan daith Ruby? Os hoffech chi edrych ar yrfa mewn gofal gallwch ymweld â gwefan Gofalwn Cymru lle gallwch ddod o hyd i gefnogaeth a gwybodaeth am y gwahanol rolau mewn gofal, gwylio fideos a chwilio am swyddi gwag yn eich ardal.

Gallwch hefyd gofrestru ar-lein i weminar rhad ac am ddim Blas ar: Gwaith cymdeitasol ar 22 Hydref 2024, i ddysgu mwy am ddechrau gweithio mewn gofal cymdeithasol.

Dilynwch ni ar:

Facebook: @GofalwnCymru / @WeCareWales

X: @GofalwnCymru / @WeCareWales

Instagram: @gofalwncymrucares

LinkedIn: @gofalwn-cymru-wecare-wales/