Mae Llwyddo’n Lleol 2050 eisiau eich help unwaith eto i benderfynu pwy sy’n haeddu gwobr Barn y Bobl.
Mae Llwyddo’n Lleol yn brosiect sydd wedi cynnig cyfle arbennig i bobl sydd eisiau cychwyn busnes ei hunain er lles ardal Gwynedd a Môn. Mae’r prosiect yn cynnig hyfforddiant 10 wythnos ac ariannol £1,000 er mwyn datblygu syniad busnes newydd.
Mae criw arbennig wedi eu dewis ar gyfer y cynllun yma. Mae pump ohonynt wedi bod yn gweithio’n tu hwnt o galed dros yr wythnosau diwethaf, ac yn parhau i wneud hynny rŵan, i ddwyn hadyn syniad yn gynllun busnes. Mae’r math o syniadau sydd ganddynt yn amrywio, o ŵyl gelf i ferched, siop goffi, yoga i famau a babanod, ffotograffiaeth a ffasiwn Affricanaidd.
Barn y Bobl
Mae Llwyddo’n Lleol 2050 eisiau eich help chi i benderfynu pa un o’r criw arbennig yma sy’n haeddu gwobr Barn y Bobl. Bydd swm ariannol o £1000 yn cael ei wobrwyo i’r unigolyn sy’n dod i’r brig yn ôl barn y bobl.
Pwy sydd wedi denu eich sylw chi dros yr wythnosau diwethaf?
Pa un yw eich hoff syniad busnes?
Pwy sydd wedi eich adloni?
Cynnyrch neu wasanaeth pwy hoffech chi ei weld yn datblygu?
Mae’r pump wedi bod yn cymryd rhan mewn heriau wythnosol yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae’r cynnwys i gyd i’w gael ar dudalen Facebook Llwyddo’n Lleol. Ewch i sbecian ac atgoffa eich hun pwy ydy pwy!
Yn ogystal â’r cynnwys cyfryngau cymdeithasol, mae aelodau ohonynt wedi cymryd rhan mewn cyfweliadau gyda BBC Radio Cymru ac wedi rhannu eu teithiau trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eu busnesau eu hunain, megis Facebook ac Instagram. Mae taith pob un wedi bod yn un gwerth ei dilyn, ond taith pwy sydd yn mynd â hi?
Ceurwyn Humphreys, Caernarfon
Mae Ceurwyn ynghyd a’i ddau bartner busnes arall yn rhedeg eu busnes Coffi Dre. Mae’r tîm yn angerddol am goffi da ac yn gobeithio agor siop goffi ei hunain yn ardal Caernarfon yn y dyfodol. Bydd y busnes yn galluogi lle i unigolion gael fynd i gymdeithasu a chynnal gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol.
Eleri Foxhall, Penygroes
Mae Eleri yn berchen ar fusnes Iogis Bach ble mae hi’n cynnig sesiynau ioga a meddylgarwch i rieni a babanod. Mae ei sesiynau yn cael ei chynnal yn stiwdio Braf yn Dinas Dinlle ac mae hi’n edrych ymlaen at ddatblygu ei busnes ymhellach er mwyn gallu darparu fwy o sesiynau buddiol i deuluoedd lleol.
Grace Oni, Bangor
Mae Grace wedi bod yn byw yn ardal Bangor bellach am flwyddyn a sylweddolodd hi fod diffyg cyfleusterau a deunyddiau ar gael yn yr ardal leol ar gyfer unigolion o’r gymuned Affricanaidd. Mae Grace yn gobeithio lansio bwtic Affricanaidd yn yr ardal a bydd yn darparu gwisgoedd, gemwaith a gwasanaethau fel trwsio dillad a hyfforddiant.
Ffion Pritchard, Bangor
Drwy eu digwyddiad Gŵyl y Ferch mae Ffion a’i phartner busnes Esme Livingston yn rhoi llwyfan i waith celf ferched. Wedi cynnal yr ŵyl yn y gorffennol am ddim ac wedi gweld ei llwyddiant maent nawr eisiau ei ddatblygu fel busnes.
Luke Huntly, Clynnog Fawr
Mae Luke wedi lansio ei fusnes ffotograffiaeth ei hun, Luke Joe Huntly Photographer ac mae’n darparu gwasanaeth ffotograffiaeth a dylunio graffeg i fusnesau lleol. Wedi gweithio gyda chleientiaid fel Dillad Nant a Maggie Twist mae Luke eisiau defnyddio ei dalentau i helpu busnesau edrych yn fwy proffesiynol ac i dyfu.