Mae sawl chwedl am ein camerâu gorfodi:
- Mae’r camerâu yna er mwyn twyllo pobl a’u dal allan!
- Mae camerâu cyflymder wedi eu gosod mewn llefydd lle mae y mae hi’n fwy tebygol o ddal gyrwyr yn goryrru!
- Mae camerâu cyflymder yna i wneud arian!
Mae camerâu yn cael eu defnyddio i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel ac yn helpu i achub bywydau, nid i wneud arian neu i ddal gyrwyr heb reswm. Mewn gwirionedd, ein camerâu mwyaf llwyddiannus ydy’r rhai sydd yn dal y nifer LLEIAF o droseddwyr, nid y mwyaf.
Mewn ymdrech i geisio dileu’r chwedlau a’r camddealltwriaeth sy’n gysylltiedig a lle rydym yn gosod camerâu, gan dechrau’r mis yma rydym yn lansio ymgyrch newydd dros gyfryngau cymdeithasol o’r enw ‘Sbotolau Ar Safleoedd’.
Mae pob camera GanBwyll yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar leoliad camerâu. Mae sut a phryd y gosodir camerâu’n dibynnu ar hanes y damweiniau a’r broblem diogelwch ffyrdd ym mhob lleoliad.
Nid mater o ddewis ffordd ar hap oddi ar y map a phenderfynu y bydd camera gorfodi’n cael ei osod yna ydy hi. Rydym yn dadansoddi’n ofalus y data a ddefnyddiwn wrth benderfynu lle mae’r lleoliadau gorau ar y ffyrdd y mae angen yr ymyrraeth yma er mwyn lleihau damweiniau ac achub bywydau.
Penodi lleoliad
Cyn i ffordd neu leoliad penodedig ddod yn safle gorfodi, mae llawer o ffactorau sy’n rhaid eu hystyried.
Cymerwch y B4291, Ffordd Birchgrove, Abertawe er enghraifft:
Mae cyfyngder cyflymder o 40mya ar y ffordd yma, sy’n un o’n safleoedd camera symudol. Yn 2017 cynhaliwyd arolwg cyflymder a ddangosodd bod 67% o’r traffig yn teithio ar gyflymder uwch na’r cyfyngder cyflymder; gyda’r cyflymder uchaf a gofnodwyd yn 114mya!!
Bu gwrthdrawiad difrifol ar y ffordd yma gydag un person wedi’i anafu’n ddifrifol a thri pherson arall wedi dioddef man anafiadau.
Mae fferm/stablau wedi’u lleoli yng nghanol yr ardal yma lle mae cerbydau araf yn teithio i mewn ac allan yn rheolaidd, gan achosi risg ychwanegol, yn enwedig ar gyflymder o hyd at 114mya ar ffordd gul, wledig sydd a throadau dall.
Yn 2018 fe gynhaliwyd arolwg cyflymder arall a ddangosodd fod y cyflymder cyfartalog ar y ffordd wedi gostwng o 43mya i 39mya a bod canran y cerbydau oedd yn teithio uwchlaw ‘r cyfyngder cyflymder wedi gostwng o 67% i 41%. Mae gorfodi yn yr ardal yma, hyd yma, wedi bod yn effeithiol o ran lleihau cyflymder.
Felly, dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf cadwch lygaid allan ar ein tudalen Trydar am ein negeseuon “Sbotolau Ar Safleoedd” a cofiwch, os oes gennych bryder am oryrru ar ffordd neu ardal benodol yn eich cymuned rhowch wybod i ni drwy ein ffurflen Pryderon Cymunedol ac fe wnawn ni ymdrechu i ymateb i’ch pryder cyn gynted ag y bo modd.
Nod GanBwyll yw gwneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel i bawb!