Diddorol tu hwnt. Credaf fy mod yn iawn i ddweud fod Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn uniaith Gymraeg, ond iddi gael ei llyncu gan T & G Saesneg rhywbryd cyn yr ail ryfel byd. Yr oedd y TGWU yn arf pwerus i’r Blaid Lafur yn Arfon a Meirionnydd, ond bu lleihad yn ei dylanwad yn dilyn cau’r chwarel. Tybed a fuasai Dafydd Wigley wedi gorchfygu Goronwy Roberts yn 1974 petai Dinorwig wedi aros ar agor ? . Er i’r chwarel gau, fe wnaeth cynllun HEP Marchlyn leddfu gryn dipyn ar ddiweithdra’r ardal yn y 70au, felly i rhyw raddfa, ni welwyd colli’r chwarael tan yr 80au.
Bydd arddangosfa newydd yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn coffáu 50 mlynedd ers cau Chwarel Dinorwig ym 1969.
Bydd Dinorwig ’69 – Cofio’r Cau, sy’n agor ar 15 Gorffennaf 2019, yn edrych ar rai o’r rhesymau dros y cau yn Haf 1969 a’r effaith a gafodd hyn ar bentref Llanberis a’r gymdogaeth – a hyn oll wythnosau ar ôl Arwisgiad y Tywysog Siarl yng Nghaernarfon ar gylch o lechen Dinorwig.
Ar ôl y cau – collodd 350 o ddynion eu gwaith ac yn sgil hyn newidiodd cymuned chwarelyddol a ffordd o fyw a oedd wedi bodoli ers y 1780au am byth.
“Byddwn yn ceisio rhoi hanes y cau yn ei gyd-destun,” eglurodd Dr Dafydd Roberts, ceidwad yr amgueddfa.
“Nid dathlu yr ydym ond yn hytrach cofnodi y bennod bwysig hon mewn hanes.”
“Ganrif ynghynt, byddai cau’r chwarel wedi bod yn annirnadwy – roedd Chwarel Dinorwig yn un o’r chwareli llechi mwyaf yn y byd – a gyda Chwarel y Penrhyn ym Methesda, gallai gynhyrchu mwy o lechi toi mewn blwyddyn na’r holl chwareli llechi eraill yn y byd gyda’i gilydd.”
“Cafodd y tawelwch dieithr a ddaeth i Ddinorwig ym mis Awst 1969 effaith enfawr a hirbarhaol ar yr ardal.”
Ffilm, llun a gair
Mae’r arddangosfa’n cynnwys mur o 50 o ffotograffau sy’n cynrychioli chwarel Dinorwig dros y blynyddoedd a sydd wedi eu dewis gan gyn chwarelwyr.
Hefyd mae gwaith celf a barddoniaeth gan blant ysgol ardaloedd y chwareli, wedi ei gwblhau o dan ofal yr artist Mari Gwent a’r bardd Cenedlaethol Ifor ap Glyn. Hefyd bydd cyfres o straeon digidol o archif yr amgueddfa a wnaed 10 mlynedd yn ôl gyda phobol lleol yn cofnodi eu hatgofion am y Chwarel.
Yn ogystal â hyn bydd dwy ffilm i’w gweld ar y safle drwy gydol yr haf – sef ‘End of the Line’, ffilm a wnaed gan y BBC ym 1969 adeg yr arwerthiant, sy’n dangos y gwrthrychau’n cael eu gwerthu ac hefyd amrywiaeth o storïau digidol gan bobl leol am eu hatgofion o’r cyfnod, a gynhyrchwyd gyda chymorth disgyblion o Ysgol Brynrefail, a Ffarwel Roc, ffilm ddogfen o 1969 yn dilyn hanes Chwarelwyr Dinorwig.
Cynhelir rhaglen o weithgareddau i gefnogi’r arddangosfa, gan gynnwys taith gerdded i’r Chwarel ar 22 Awst a chyngerdd coffa ar 24 Awst am 7pm yn ffowndri yr amgueddfa.
“Bydd nifer o’n gweithgareddau yn canolbwyntio ar yr wythnos olaf ym mis Awst” meddai Dr Dafydd Roberts.
“Derbyniodd y dynion lythyr gan Gwmni Chwarel Dinorwig yn eu hysbysu y byddai’r chwarel yn cau ar yr 22 Awst, ac roedd yn ymddangos yn briodol i ni felly ddefnyddio’r dyddiad hwn yn ganolbwynt ar gyfer ein digwyddiadau.”
Twf a dirywiad
Dechreuwyd cloddio am lechi ar raddfa helaeth yn Chwarel Dinorwig yn y 1780au, ac erbyn y 1890au roedd yn cyflogi dros 3,000 o ddynion a bechgyn ifanc fel chwarelwyr, prentisiaid, seiri coed, ffitwyr, fformyn a rheolwyr.
Esgorodd y twf hwn ar rwydwaith o bentrefi – Llanberis, Deiniolen, Dinorwig, Cwm-y-glo, Llanrug, Bethel, y Felinheli a’r Waunfawr – ac roedd y cyfan yn dibynnu ar y chwarel am gynhaliaeth ac yn eu tro yn darparu’r gweithlu medrus yr oedd ei angen i droi’r graig yn llechi toi.
Mae’r diwydiant llechi, fel nifer o ddiwydiannau mawr eraill, wedi wynebu anawsterau. Bu sawl streic yn Chwarel Dinorwig yn 1885 gyda’r cau allan, a dilynwyd hyn ym 1900 gan y Cau Allan yn Chwarel y Penrhyn, a ddatblygodd yn un o’r anghydfodau diwydiannol hwyaf mewn hanes. Erbyn y 1960au, roedd y diwydiant llechi yn gyffredinol yn wynebu dyfodol mwy ansicr fyth.
Nid oedd pethau wedi bod yn mynd yn dda ers nifer o flynyddoedd, ac ymddengys fod sawl rheswm dros gau Chwarel Dinorwig ym 1969.
Roedd llai o alw am lechi yn y DU yn ystod yr 20fed ganrif. Roedd llechi o Gymru yn ddrud o’u cymharu â theils a llechi toi o dramor, ac roedd perchenogion Chwarel Dinorwig a Chwarel y Penrhyn yn cystadlu â’i gilydd am gyfran o farchnad gymharol fychan.
“Mae’n ymddangos hefyd nad oedd Chwarel Dinorwig wedi cael ei datblygu’n effeithiol,’ eglurodd Dafydd Roberts.
“Roeddynt wedi cloddi’r llechfaen mwyaf hygyrch erbyn y 1960au, ac roedd angen buddsoddi er mwyn datblygu ymhellach.”
“Nid oedd gan y perchenogion yr arian i wneud hyn yn iawn. Un o’r camgymeriadau oedd buddsoddi’n helaeth yn Chwarel Marchlyn, ond nid oedd y rhan hon o’r mynydd yn gwneud unrhyw arian. Nid oedd unrhyw lechfaen gwerth ei weithio yno.”
“Erbyn diwedd y 1960au, roedd y chwarel yn dibynnu ar archebion o Ffrainc i oroesi. Ym mis Gorffennaf 1969, daeth yr archebion hyn i ben. Dyma’r hoelen olaf yn yr arch. Pan gaeodd Chwarel Dinorwig – a oedd yn un o nifer helaeth o chwareli llechi i gau yn y 1960au – roedd hyn yn llawer mwy nag ergyd economaidd. Roedd ffordd o fyw yn wynebu dyfodol ansicr.”
Prif Lun: Ponciau Chwarel Dinorwig a’r ‘ceiliog mawr’ – craig ingneaidd ymwthiol yng nghanol y chwareli (Hawlfrant Gwasanaeth Archifau Gwynedd)