Os gwyddoch am gynhyrchydd neu fusnes lleol yna cofiwch gysylltu heddiw a dweud wrthynt os rhoddant gynnig arni efallai y byddant yn enillydd Gwobr Gwir Flas ymhen rhai misoedd.
Eleni fe fydd 16 o gategorïau yn y gwobrau sy’n cael eu beirniadu’n annibynnol ac sy’n ceisio cynnwys pob maes ar gynhyrchu a gwerthu bwyd a diod a’r sectorau lletygarwch. Mae’r Gwobrau’n gwobrwyo rhagoriaeth yn y sector bwyd a diod yng Nghymru, felly os gwyddoch am gynhyrchydd cofiwch ddweud wrthynt mai wythnos yn unig sydd ganddynt i roi cynnig arni.
Diddordeb? Os felly, eleni fe fydd 16 Categori yn y gwobrau. Y categorïau ar gyfer gwobrau 2011/12 yw:
– Cynnyrch Cig
– Cynnyrch Llaeth
– Cynnyrch Pob a Melysion
– Cynnyrch Diod
– Pysgod / Cregynbysgod
– Garddwriaeth
– Bwydydd Arbenigol
– Bwyd ar gyfer Iechyd
– Organig
– Gwobr Camp Allforio Cymru
– Cynnyrch Gwir Flas y Flwyddyn Cymru
– Adwerthwr y Flwyddyn
– Prynu’n Lleol
– Bwyta Allan yng Nghymru
– Cyfraniad i Ddatblygu Cynaliadwy
– Lladmerydd Gwir Flas
Rhowch bin ar bapur heddiw ac mewn ychydig fisoedd gallech fod yn enillydd dwbl Gwobr Gwir Flas!