Mae Pacistan wedi cyhuddo byddin India  o ladd tri o’i milwyr, ac anafu un arall, yn ardal Kashmir.

Mae datganiad gan fyddin y wlad yn nodi bod milwyr wedi “ymateb yn effeithiol” yn dilyn ymosodiad dros nos yn nhref Rakhchakri, sydd ar y ffin rhwng rhan Pacistan o Kashmir a rhan India.

Dyw Llywodraeth India ddim wedi ymateb i’r cyhuddiad hyd yn hyn.

Daw’r digwyddiad yn dilyn wythnosau o densiynau rhwng Pacistan a India dros yr ardal sydd wedi bod yn achos cynnen ar hyd y blynyddoedd.

Ym mis Chwefror, fe wnaeth hunan-fomiwr ladd 40 o filwyr India yn Kashmir, gyda New Delhi yn ymateb trwy gynnal cyrch awyr yn Pacistan ei hun, gan ddweud eu bod nhw’n targedu gwrthryfelwyr.

Fe ymatebodd Pacistan wedyn drwy saethu dwy o awyrennau India.