Mae arweinydd yr wrthblaid yn Camerŵn, ynghyd â rhai o’i gefnogwyr, wedi cael eu harestio am alw ar i bobol gynnal protestiadau ledled y wlad.

Mae Amnest Rhyngwladol wedi beirniadu’r cam, gan ddweud ei fod yn arwydd o’r ffordd y mae Llywodraeth Camerŵn yn gweithredu’n llym yn erbyn gwleidyddion ac ymgyrchwyr hawliau dynol.

Maen nhw wedi galw am ryddhau Maurice Kamto a’i gefnogwyr yn ddiamod ar unwaith, wedi iddo gael ei arestio yn Douala.

Roedd ei blaid, y Mudiad ar gyfer Dadeni Camerŵn, wedi galw ar bobol y wlad i weithredu tros yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio’n “anghysonderau” adeg yr etholiad ym mis Hydref y llynedd, a welodd Arlywydd y wlad, Paul Biya, yn cael ei ethol am y seithfed tro.

Yn ôl ffigyrau swyddogol, fe ddaeth Maurice Kamto wedi dod yn yn ail pell yn yr etholiad hwnnw.

Dywed Amnesty International ymhellach fod mwy na 100 o brotestwyr wedi cael eu harestio ledled Camerŵn yn ddiweddar, gyda dim ond 50 ohonyn nhw wedi’u rhyddhau.