Fe allai rhai milwyr o Brydain gael eu hanfon i Afghanistan am flwyddyn gron er mwyn cynnal “cysondeb” wrth i’r fyddin baratoi i adael yn 2014.

Mewn cyfweliad â phapur newydd yr Independent, dywedodd cadlywydd y lluoedd arfog yn Helmand, Ed Davis, y gallai milwyr aros yno am fwy na chwe mis yn y dyfodol.

Byddai y rhan fwyaf o’r rheini sy’n cael eu heffeithio yn filwyr arbenigol sy’n casglu gwybodaeth ac yn paratoi lluoedd arfog Afghanistan, meddai.

“Mae’n anodd iawn ffurfio perthynas agos â phobol pan maen nhw’n mynd a dod o hyd felly mae rhaid ystyried cadw pobol yma am gyfnod hirach,” meddai Ed Davis.

“Rydw i’n credu dros gyfnod o amser fe fyddwn ni’n gweld newid a bydd yna bobol yn aros am gyfnodau hirach… o naw i 12 mis.”

Dywedodd Michael O’Neill, pennaeth tîm adluniau rhanbarthol Helmand, fod y cynnig yn gwneud synnwyr.

“Rydyn ni mewn cyfnod allweddol ac mae’n hynod o bwysig fod y cysondeb yno,” meddai.

“Mae’n rhan fwyaf o’n pobol ni yn gwneud mwy na chwe mis, hyd at flwyddyn, a rhai cymaint â 18 mis.

“Mae’n ddefnyddiol iawn wrth greu perthynas â’n cydweithwyr o Afghanistan a hefyd wrth sicrhau bod prosiectau yn cael eu cwblhau.”