Mae chwech o bobol yn cael eu holi gan yr awdurdodau yn dilyn adroddiadau bod bom ar awyren Air France oedd yn teithio rhwng Mauritius a Pharis.

Bu’n rhaid i’r awyren lanio ym Mombasa yn Kenya wedi i’r criw gael gwybod am y sefyllfa.

Dywedodd un o’r teithwyr wrth aelod o staff fod “oriawr ar ben bocs” mewn toiled ar yr awyren, gan orfodi’r peilot i lanio ar frys ym maes awyr Moi.

Mae lle i gredu bod y teithiwr hwnnw ymhlith y chwech sy’n cael eu holi.

Roedd hediad 463 ar ei ffordd i faes awyr Charles de Gaulle pan alwodd y peilotiaid am yr hawl i lanio ar frys ym maes awyr Moi ym Mombasa.

Roedd 459 o deithwyr ac 14 o aelodau staff ar yr awyren ar y pryd.

Cafodd arbenigwyr eu galw i gynnal ymchwiliad i’r ddyfais ffrwydrol.

Cafodd y maes awyr ei gau dros dro.

Dywedodd llefarydd ar ran Air France eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad.