Nigeria yng ngorllewin Affrica yw gwlad fwyaf poblog y cyfandir
Mae’r prif weinidog David Cameron wedi addo y bydd Prydain yn dal i helpu ymdrechion Nigeria yn erbyn gwrthryfelwyr Boko Haram, wrth iddo gyfarfod arlywydd newydd y wlad.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 Downing Street fod David Cameron wedi croesawu’r arlywydd Muhammadu Buhari yno y bore yma.

“Fe wnaeth y ddau arweinydd longyfarch ei gilydd ar eu buddugoliaethau etholiadol diweddar a thrafod yr heriau sy’n wynebu Nigeria,” meddai’r llefarydd.

“Fe bwysleisiodd y Prif Weinidog ddymuniad y Deyrnas Unedig i weithio dros Nigeria sefydlog, ffyniannus a diogel.

“Fe fu’r arweinwyr yn trafod diogelwch yn y rhanbarth ac yn enwedig y bygythiad o du Boko Haram. Fe wnaeth y ddau gytuno i barhau i weithio gyda’i gilydd i gryfhau byddin Nigeria, gyda Phrydain yn dal i ddarparu hyfforddiant milwrol a chymorth cudd-wybodaeth.”

Ychwanegodd fod y ddau arweinydd hefyd wedi trafod yr angen i fynd i’r afael â llygredd, gangiau troseddwyr a’r her sy’n cael ei achosi gan fudwyr o Affrica sy’n ceisio teithio i Ewrop.