Bashar Assad - mae ei gefnogwyr yn canolbwyntio ar gipio ardal Homs
Mae milwyr Syria, gyda chefnogaeth saethwyr sy’n cefnogi llywodraeth y wlad, wedi bod yn ennill tir yn ystod brwydrau gyda gwrthryfelwyr heddiw.

Mae un pentre’ allweddol wedi ei gipio yn nhalaith Homs ger y ffin â Libanus.

Daw’r ymladd diweddara’ wrth i swyddogion yr Unol Daleithiau honni fod gweinyddiaeth yr Arlywydd Obama yn barod i anfon gwerth miliynau o ddoleri o gymorth ychwanegol i wrthryfelwyr sy’n ceisio disodli’r Arlywydd Bashar Assad.

Mae’r brwydro tros dre’ Qusair, sydd ger y ffin rhwng Syria a Libanus, wedi dwyshau dros y pythefnos diwetha’. Mae hynny wedi i fyddin Syria, gyda chefnogaeth milwyr sy’n cefnogi’r llywodraeth a’r grwp Hezbollah, ganolbwyntio ar yr ardal.

Mae’r ardal honno ger Homs yn un strategol oherwydd ei bod yn cysylltu prifddinas Syria, Damascus, gyda’r ardal arfordirol sy’n gartre’ i sect yr Alawitiaid. O’r sect honno y mae Bashar Assad yn hanu.