Mae marchnad yswiriant Lloyd’s o Lundain eisoes wedi cychwyn paratoi am ddiwedd yr Ewro meddai’r Prif Weithredwr.

Mewn cyfweliad ym mhapur y Sunday Telegraph, dywedodd Richard Ward ei fod yn bryderus iawn am Ewrop.

“Tydw’i ddim o anghenrhaid yn credu y buasai gweld Groeg yn gadael yr Ewro yn golygu diwedd parth yr Ewro ond mae’n rhaid i ni baratoi ar gyfer hynny,”meddai.

Mae Lloyd’s yn farchnad lle mae cyfuniad o gwmniau a broceriaid yn gallu dod at ei gilydd er mwyn yswirio yn erbyn peryglon penodol a Richard Ward yw’r cyntaf o blith pennaethiaid cwmniau mawr yn y DU i gyfaddef ei fod yn ystyried diwedd yr ewro o ddifrif.

Fe fydd Groeg yn cynnal etholiadau ganol mis Mehefin ac mae llawer o’r Groegiaid yn erbyn y mesurau sydd wedi eu rhoi yn eu lle er mwyn datrys problemau ariannol y wlad.

Os ydi plaid Syrzia sydd yn canfasio yn erbyn y mesurau cynilo, yn fuddugol yna gallasai Groeg gael ei gorfodi i adael yr Ewro.

Mae Pennaeth y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Christine Lagarde wedi dweud yn ddiweddar ei bod yn hen bryd i Groeg ddechrau talu ei dyledion a’i benthyciadau.