Mae prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud bod gan wledydd Prydain dri opsiwn i’w ystyried ar gyfer Brexit – gadael heb gytundeb, ymestyn Erthygl 50 neu gymeradwyo bargen Theresa May.

Daw sylwadau Michel Barnier wrth i Theresa May gynnal cyfarfod pum awr gyda’i Chabinet heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 2), ac ar ôl i Aelodau Seneddol bleidleisio fethu â chytuno ar opsiynau Brexit.

Wrth siarad yn ninas Brwsel, dywed Michel Barnier fod Brexit heb gytundeb yn dod yn “fwyfwy tebygol”, ac y byddai methiant i gymeradwyo bargen y Prif Weinidog yn golygu mai ymestyn Erthygl 50 a gadael heb gytundeb yw’r unig ddau opsiwn sy’n weddill.

Ychwanega y byddai ymestyniad arall yn creu “peryglon sylweddol” i’r Undeb Ewropeaidd, ac y byddai angen i wledydd Prydain gyflwyno “reswm dilys” wrth ofyn am amser ychwanegol.

Mae hefyd wedi dweud bod yr Undeb Ewropeaidd yn barod i aildrafod y Datganiad Gwleidyddol, sy’n rhan o fargen Theresa May.

“Rydyn ni o hyd wedi dweud ein bod ni’n derbyn undeb tollau, neu berthynas sy’n dilyn yr un drefn â model Norwy,” meddai.

“Yn wir, mae’r Datganiad Gwleidyddol heddiw yn cynnwys yr opsiynau hyn yn barod. Mae’n gadael y drws yn agored ar gyfer gwahanol ganlyniadau.

“Ond os yw gwledydd Prydain yn dymuno, rydyn ni’n barod i ailweithio’r Datganiad Gwleidyddol”.