Mae’r Prif Weinidog, Theresa May, wedi dweud ei bod hi “o fewn cyrraedd” gwledydd Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29 wrth iddi wrthod galwadau am estyniad i’r broses.

Dywedodd Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, ei fod wedi trafod y prosesau cyfreithiol ar gyfer ymestyn y trafodaethau ymadael o dan Erthygl 50 gyda Theresa May yn yr Aifft ddoe (Dydd Sul, Chwefror 24).

Yn ôl Donald Tusk mae gohirio Brexit tan ar ôl Mawrth 29 yn “ddatrysiad rhesymegol”, gan rybuddio mai’r unig opsiwn arall, os nad oes cytundeb yn cael ei wneud, yw “Brexit anhrefnus.”

Er ei bod yn wynebu pwysau gan Dorïaid yn galw arni i ohirio, mae Theresa May yn mynnu fel arall.

“Mae hi o fewn ein cyrraedd i adael gyda chytundeb ar Fawrth 29 a dw i’n canolbwyntio fy holl egni ar hynny,” meddai’r Prif Weinidog.

“Tydi estyniad i Erthygl 50, sef oedi yn y broses hon, ddim yn cyflwyno penderfyniad yn y Senedd, nid yw’n darparu cytundeb.”

Mae Theresa May hefyd wedi awgrymu y gallai hi gyflwyno ei chynllun Brexit i’r Senedd cyn iddo gael sêl bendith gan y 27 o wledydd eraill sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd.