Nigel Farage (Llun: PA)
Mae Syr Vince Cable wedi lladd ar y Ceidwadwyr am fabwysiadu polisïau UKIP, wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol lansio poster ymgyrch sy’n dangos wyneb Nigel Farage ar ben Prif Weinidog Prydain, Theresa May.

Mae’r Aelod Seneddol tros Twickenham yn Llundain wedi beirniadu targedau mewnfudo Theresa May, yn ogystal â’i pherthynas agos o “ddal dwylo” gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

Mae Brexit wrth galon ymgyrch y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer yr etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8, wrth iddyn nhw dargedu pleidleiswyr oedd o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mewn araith mewn clwb rygbi yn Twickenham, dywedodd Syr Vince Cable fod Theresa May “wedi mabwysiadu pecyn llawn UKIP o Brexit caled eithafol o fynd â ni allan o’r farchnad sengl… heb baratoi o gwbl ym maes gwyddoniaeth a’r amgylchedd”.

Nigel Farage a Theresa May

Dywedodd fod gan Nigel Farage “bob rheswm i fod wrth ei fodd” gyda pholisïau Theresa May, gan feirniadu’r berthynas agos sydd rhwng pleidiau’r ddau ohonyn nhw, ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod UKIP wedi penderfynu peidio â gwrthwynebu’r Ceidwadwyr os oes ganddyn nhw ymgeiswyr sydd o blaid Brexit.

Ychwanegodd Syr Vince Cable: “Beth yw diben cael ymgeisydd UKIP os yw’r ymgeisydd Ceidwadol yn siarad drosoch chi?

“Dyna’r mater ry’n ni am dynnu eich sylw ato, yr agosatrwydd rhwng y Ceidwadwyr ac UKIP, yn enwedig Mr Farage sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i arweinydd y Ceidwadwyr.”