Mae gobaith am dywydd llawer gwell o ganol yr wythnos nesaf ymlaen gyda disgwyl i’r tymheredd godi i hyd at 28 gradd C mewn mannau erbyn y penwythnos.

Rhaid fydd disgwyl tan ddydd Mercher am y tywydd braf fodd bynnag, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

“Fe fydd dydd Llun a dydd Mawrth yn oeraidd ac yn aml yn wlyb a gwyntog,” meddai Marco Petagna o’r Swyddfa Dywydd. “Ond wedyn fe fydd y pwysedd uchel yn datblygu ledled y Deyrnas Unedig.

“Dydd Mercher fydd y trobwynt i’r tywydd gwell, ac o ddydd Gwener i’r penwythnos fe fydd digonedd o haul cryf.

“Mae mis Mai hyd yma wedi bod yn oer, a’r tymheredd yn is na’r cyfartaledd, felly mae’n gryn gyferbyniad ac yn newid mawr dros yr wythnos i ddod.”