Cyfarfod y llynedd rhwng Merkel a Cameron (PA)
Fe fydd Prif Weinidog Prydain yn cynnal cyfarfod pwysica’i daith Ewropeaidd yn ddiweddarach heddiw.

Fe fydd David Cameron yn cwrdd â Changhellor yr Almaen, Angela Merkel, wrth iddo geisio cael cefnogaeth i’w alwad am newid cytundebau’r Undeb Ewropeaidd.

Hi yw arweinydd mwya’ pwerus yr Undeb ac mae ei chefnogaeth yn gwbl allweddol i ymgyrch David Cameron.

Neithwir fe fu’n trafod gydag Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, gan ddweud nad yw’r telerau sydd gan y Deyrnas Unedig yn yr Undeb “ddim yn ddigon da”.

Dim brwdfrydedd

Er fod Angela Merkel a Francois Hollande wedi pwysleisio eu bod eisiau i’r Deyrnas Unedig aros yn yr Undeb, dydyn nhw ddim wedi dangos llawer o frwdfrydedd tros newid cytundebau.

Heddiw, mae gwleidydd Almaenig amlwg wedi rhybuddio y byddai newid y telerau ar gais gwledydd Prydain yn gosod cynsail peryglus.

Ond mae Ysgrifennydd Tramor Prydain, Philip Hammond, yn dweud bod angen “newid sylweddol” er mwyn ennill y refferendwm i aros yn yr Undeb.