Mae’r cyn-Brif Weinidog Tony Blair wedi ymddiswyddo o’i waith fel llysgennad heddwch yn y Dwyrain Canol.

Bydd yn rhoi’r gorau i’r swydd y bu ynddi ers 2007, fis nesaf.

Er na fydd yn cynrychioli’r pedwarawd – y Cenhedloedd Unedig, yr Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd a Rwsia – mae’n bwriadu parhau’n “weithgar” ym maes heddwch.

Mae Tony Blair wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Ban Ki-Moon i gadarnhau ei ymddiswyddiad. Nid oedd yn derbyn cyflog am ei rôl fel llysgennad.

Dywedodd llefarydd ei fod yn parhau yn “ymrwymedig” i helpu yn y broses i ddatrys y sefyllfa rhwng Israel a Phalestina ond ei fod yn credu mai’r ffordd orau iddo wneud hynny oedd “cydweithio gyda’r Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd ac eraill, heb rôl ffurfiol.”

Roedd ’na feirniadaeth wedi bod o rôl Blair oherwydd  gwrthdaro posib gyda’i fuddiannau busnes.