Mae dyn wedi’i gludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth wedi iddo gael ei daro gan un o’r atyniadau yn Ffair Y Bermo.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 10.15 y bore ma i’r ffair ar lan y môr.

Cafodd ambiwlans awyr ei anfon i’r safle ond cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans.